Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi gwadu y byddai hi ar ben arno fe a’r Blaid Lafur pe baen nhw’n colli is-etholiadau allweddol yn Stoke a Copeland.

Mae’r is-etholiadau’n cael eu cynnal yn Stoke yn dilyn ymddiswyddiad Tristram Hunt, sy’n mynd yn gyfarwyddwr y Victoria and Albert Museum yn Llundain, ac yn Copeland yn Swydd Cumbria yn dilyn ymddiswyddiad Jamie Reed, sy’n mynd i weithio i safle niwclear Sellafield.

Yn ôl Jeremy Corbyn, mae’r is-etholiadau’n “gyfle” i’r blaid yn hytrach nag yn broblem.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Mae ein plaid yn mynd i frwydro’n galed iawn yn yr etholiadau hynny.

“Ry’ch chi’n cymryd fod popeth yn broblem. Mae’n gyfle.

“Mae’n gyfle i herio’r Llywodraeth ynghylch y Gwasanaeth Iechyd, mae’n gyfle i’w herio nhw ar anrhefn Brexit.”

Mae Jeremy Corbyn hefyd wedi wfftio pôl piniwn sy’n awgrymu bod gan y cyhoedd fwy o ffydd yn y Ceidwadwyr a Theresa May i ofalu am y Gwasanaeth nag sydd ganddyn nhw yn y Blaid Lafur.

Dywedodd fod y cyhoedd yn mynd i fod yn “fwy siomedig ac yn fwy crac” wrth iddyn nhw barhau i weld y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei dan-ariannu a phreifateiddio gwasanaethau.

Y wasg a’r cyfryngau

Mae Jeremy Corbyn hefyd wedi datgan ei gefnogaeth i reolau newydd ar berchnogaeth yn y wasg a’r cyfryngau.

“Dw i ddim yn credu bod y cyfryngau’n deg iawn mewn nifer o ffyrdd, yn enwedig i’r Blaid Lafur.

“Dw i’n credu bod angen proses lle mae gennym yr hawl i ymateb.

“Mae hefyd angen i ni ddileu lefelau crynodiad o berchnogion o fewn rhai sefydliadau.”

Maniffesto 2020

Ychwanegodd Jeremy Corbyn ei fod yn gobeithio y bydd maniffesto’r Blaid Lafur ar gyfer etholiad 2020 yn cynnwys ymroddiad i ddileu Tŷ’r Arglwyddi a chyflwyno ail siambr etholedig.

“Mae gennym ni Dŷ’r Arglwyddi sy’n cael ei ddominyddu gan nifer fach o bobol o Lundain a’r de-ddwyrain.

“Hoffwn weld ail siambr etholedig sy’n cynrychioli holl ranbarthau a chenhedloedd y Deyrnas Unedig. Dw i’n credu bod hynny’n bwysig iawn. Hoffwn gyrraedd y sefyllfa honno erbyn 2020.”