Y Canghellor Philip Hammond (Llun: PA)
Fe fydd Prydain yn “gwneud beth bynnag sy’n rhaid” er mwyn aros yn gystadleuol y tu allan i’r farchnad sengl, yn ôl y Canghellor Philip Hammond.

Mae’r Canghellor wedi awgrymu ar drothwy araith fawr y Prif Weinidog, Theresa May ddydd Mawrth ei fod yn barod i ystyried torri trethi busnes er mwyn sicrhau bod busnesau’n aros yn gystadleuol.

Dywedodd wrth bapur newydd ‘Welt am Sonntag’ yn yr Almaen ei fod yn “optimistaidd” o sicrhau cytundeb ôl-Brexit mewn perthynas â’r farchnad sengl.

“Yn bersonol, dw i’n gobeithio y gallwn ni aros ym mhrif ffrwd meddwl economaidd a chymdeithasol Ewrop.

“Ond os ydyn ni’n cael ein gorfodi i fod yn rhywbeth gwahanol, yna bydd rhaid i ni ddod yn rhywbeth gwahanol.

“Os na chawn ni fynedig i farchnad Ewrop, os cawn ni ein cau allan, pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar fynediad i’r farchnad, yna fe allen ni ddioddef niwed economaidd yn y tymor byr o leiaf.”

‘Brexit caled’

Daw sylwadau Philip Hammond ar drothwy araith fawr Theresa May ddydd Mawrth, pan fo disgwyl iddi alw am ‘Brexit caled’.

Byddai hynny’n cynnwys gadael y farchnad sengl, sicrhau rheolaeth tros fewnfudwyr a sicrhau nad yw gwledydd Prydain o dan reolaeth y Llys Cyfiawnder bellach.