Mae disgwyl i aelodau seneddol gynnal ymchwiliad i’r gost o adnewyddu Palas Westminster yn sgil pryderon.
Yn ôl cadeirydd Pwyllgor Trysorlys Tŷ’r Cyffredin, Andrew Tyrie, does dim digon o dystiolaeth i gyfiawnhau’r gwaith a allai gostio hyd at £4 biliwn.
Yn ystod y gwaith adnewyddu, fe fyddai’n rhaid i aelodau seneddol ac Arglwyddi adael eu swyddfeydd, ond fe allai’r gwaith gymryd hyd at wyth mlynedd i’w gwblhau.
Ond fe fydd y pwyllgor yn ystyried ai dyma’r opsiwn orau, neu a fyddai modd i’r gwaith fynd rhagddo tra bod yr aelodau’n aros yn eu swyddfeydd.
Byddai hynny, fodd bynnag, yn golygu y byddai’r gwaith yn cymryd mwy o amser i’w gwblhau.
Dywedodd Andrew Tyrie: “Mae’r cynigion yn sicr yn galw am gryn graffu.”