Prif Weinidog Prydain, Theresa May (Llun: Hannah McKay/PA)
Bydd Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn galw ddydd Mawrth am derfyn ar y cecru rhwng y rhai oedd wedi pleidleisio o blaid aros a’r rheiny oedd wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl iddi amlinellu rhagor o’i chynlluniau ar gyfer bywyd ar ôl yr Undeb Ewropeaidd wrth iddi symud yn nes at weithredu Cymal 50 i gychwyn y broses ffurfiol o adael.

Dydy llefarydd ar ran Downing Street ddim wedi cadarnhau adroddiadau y bydd hi’n galw am ‘Brexit caled’, sef gadael y farchnad sengl a cheisio rheolaeth tros fewnfudwyr, yn ogystal â rhoi terfyn ar awdurdod Llys Cyfiawnder Ewrop yng ngwledydd Prydain.

‘Brexit yn golygu Brexit’

Mae’r Sunday Telegraph yn adrodd bod “Brexit yn golygu Brexit”, fel y mae Theresa May wedi’i ddweud droeon.

Mewn erthygl yn y Sunday Times, dywed Ysgrifennydd Brexit San Steffan, David Davis fod Theresa May yn awyddus i gryfhau’r berthynas â’r 27 aelod sy’n aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae’r cyn-Ysgrifennydd Addysg, Nicky Morgan yn galw am “y cyfranogiad mwyaf” yn y farchnad sengl er mwyn gwarchod yr economi.

Byddai’n “gwneud cam” â gwledydd Prydain pe bai hi’n dilyn trywydd Brexit caled, meddai.

Terfyn ar raniadau a ieithwedd negyddol

Mae disgwyl i Theresa May ddweud bod “angen rhoi terfyn ar y rhaniadau a’r ieithwedd sy’n mynd gyda nhw”, wrth iddi alw am “undod er mwyn i Brexit lwyddo” ac “adeiladu Prydain fyd-eang”.

Mae pwyllgor o aelodau seneddol wedi galw arni i ddechrau amlinellu ei chynlluniau’n llawn erbyn canol mis Chwefror.

Byddai hynny’n rhoi cyfle i aelodau seneddol gynnal dadl cyn dechrau’r broses ffurfiol, ac mae disgwyl i hynny ddigwydd erbyn mis Mawrth.

Bydd Theresa May yn tradoddi ei haraith yn Nhŷ Lancaster.