(llun: PA)
Mae tua 800 o gefnogwyr annibyniaeth i’r Alban yn cyfarfod yn Glasgow heddiw i baratoi ar gyfer ymgyrchu mewn refferendwm arall.

Dyma’r tro cyntaf i Gonfensiwn Annibyniaeth yr Alban ddod at ei gilydd ers y refferendwm yn 2014.

Er bod Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi cadarnhau na fydd refferendwm ar annibyniaeth eleni, mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi drafftio deddfwriaeth ar gyfer refferendwm o’r fath y gellir ei ddefnyddio yn y dyfodol.

Wrth annerch y Confensiwn heddiw, dywedodd gweinidog cydraddoldeb Llywodraeth yr Alban, Angela Constance, bod angen trafodaeth o’r newydd ar annibyniaeth.

“Rhaid inni beidio â thybio bod barn pobl – bod nhw o blaid neu yn erbyn – yr un fath â’r hyn oedden nhw ddwy flynedd yn ôl,” meddai.

“Rhaid i’r mudiad annibyniaeth, ein mudiad ni, gychwyn gydag agweddau newydd a meddwl agored.

“Os yw’n ddewis rhwng Prydain ynysig, Dorïaidd, neu Alban flaengar ryngwladol, dw i’n gwybod lle dw i’n sefyll.”

Mae Plaid Werdd yr Alban yn dadlau y dylid cychwyn gweithio ar unwaith ar gyfer ail refferendwm posibl ar ddyfodol yr Alban yn y Deyrnas Unedig.

“Wrth i’r wladwriaeth gloff Brydeinig lusgo o un argyfwng i’r llall, mae’r angen am annnibyniaeth yn gliriach o hyd,” meddai Maggie Chapman, cydgysylltydd y blaid.

“Mae’n bryd cychwyn adeiladu’r mudiad annibyniaeth eto fel ein bod ni, pan ddaw’r refferendwm nesaf, mewn sefyllfa i argyhoeddi miloedd yn fwy o Albanwyr fod yr Alban arall a gwell yn bosibl.”