Jeremy Corbyn (llun: PA)
Byddai cartrefi gofal sy’n methu’n ariannol yn cael eu cymryd i berchnogaeth gyhoeddus o dan lywodraeth Lafur, yn ôl Jeremy Corbyn.

Gyda 380 o gartrefi gofal wedi mynd i’r wal ers 2010, mae arweinydd Llafur yn cyhuddo’r llywodraeth o greu argyfwng gofal cymdeithasol gyda’i thoriadau ariannol.

Dywedodd hefyd fod ffigurau swyddogol yn dangos bod un o bob pump cartref nyrsio heb ddigon o staff ar ddyletswydd i sicrhau gofal da a diogel i’r trigolion.

“Byddai llywodraeth Lafur yn rhoi cyllid digonol i ofal cymdeithasol ac yn rhoi ymrwymiad cadarn i gymryd cartrefi gofal preifat i berchnogaeth gyhoeddus er mwyn cynnal darpariaeth gofal cymdeithasol,” meddai.

“Dyma’r peth lleiaf y gallwn ei wneud i sicrhau urddas i bobl sydd wedi rhoi cymaint i’n gwlad.”