(llun; PA)
Mae pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau Seneddol yn galw ar y Prif Weinidog i ddatgan yn eglur a yw o blaid cadw Prydain ym Marchnad Sengl Ewrop ai peidio.

Maen nhw hefyd yn pwyso arni i addo pleidlais seneddol ar y telerau terfynol rhwng Prydain a gweddill yr Undeb Ewropeaidd ar ddiwedd y trafodaethau i adael.

Yn ôl aelodau Pwyllgor y Tŷ Cyffredin ar Adael yr Undeb Ewropeaidd, dylai Theresa May  gyhoeddi ei chynlluniau fel Papur Gwyn erbyn canol mis Chwefror, fel y caiff ASau gyfle i’w trafod cyn gweithredu Erthygl 50 ym mis Mawrth.

“Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd am fod yn dasg hynod gymhleth a bydd y canlyniad yn effeithio ar bawb ohonom,” meddai Hilary Benn, cadeirydd y pwyllgor.

“Pa bynnag gytundeb fydd yn cael ei wneud, rhaid i’r Senedd gael pleidleisio arno a dylai’r Llywodraeth wneud hynny’n glir ar unwaith.”