Roedd hi’n bleidlais gyfartal yn Nhŷ’r Arglwyddi neithiwr ar fater rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru ym myd cyflogeth a gwasanaethau cyhoeddus.
Roedd 222 o blaid, a’r un faint yn erbyn, felly ni fydd y gwelliant gan Lafur yn cael ei gymeradwyo fel rhan o Fesur Cymru.
Mae’r Farwnes Eluned Morgan yn dweud ar wefan gymdeithasol Twitter ei bod wedi’i siomi gyda’r bleidlais gyfartal “sy’n golygu fod y gwelliant heb ei gyflawni ar ddatganoli cysylltiadau diwydiannol i Gymru ar wasanaethau cyhoeddus”.
Cyfnod adolygu
Daeth Mesur Cymru i derfyn ei gyfnod adolygu yn Nhŷ’r Arglwyddi neithiwr, nos Fawrth Ionawr 10.
Cafodd pleidlais arall ei chynnal ar y gwelliant i roi pwerau i Lywodraeth Cymru newid cyfreithiau ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a chŵn peryglus, gyda 90 o blaid a 223 yn erbyn, felly ni chafodd y newid ei gyflawni.
Fe gynigiodd yr Arglwydd Elystan Morgan welliant i sefydlu gweithgor fel rhan o Fesur Cymru i adolygu’r gwaith a’r pwerau sy’n cael eu cadw’n ôl ymhen tair blynedd.
Dywedodd mewn blog ar-lein mai “materion dibwys” sy’n cael eu cadw yn ôl a bod hynny’n “sarhad i genedligrwydd Cymreig.”
Mae disgwyl i Aelodau Cynulliad drafod y Mesur yn y Cynulliad ddydd Mawrth nesaf, gyda thrydydd darlleniad yn cael ei gynnal yn Nhŷ’r Arglwyddi ar Ionawr 18.