Mae dwy ysgol aeaf am gael eu cynnal ym mis Ionawr gan fudiad ieuenctid Plaid Cymru gyda’r bwriad o annog mwy o bobol ifanc i sefyll yn yr etholiadau lleol ym mis Mai.

Dywed cadeirydd Plaid Cymru Ifanc, Emyr Gruffydd: “dw i’n meddwl fod angen i fwy o bobol ifanc ymwneud â gwleidyddiaeth achos mae’n effeithio ar bob rhan o’n bywydau ni.

“Ond does dim o’r strwythur mewn lle ar hyn o bryd inni gyflwyno barn mewn modd effeithiol,” meddai wedyn.

Am hynny, mae’r mudiad wedi trefnu dwy ysgol aeaf, y naill ym Mangor ar Ionawr 14, a’r llall yng Nghastell-nedd ar Ionawr 28 gyda phanel o wleidyddion a siaradwyr.

Mae Emyr Gruffydd yn gobeithio y bydd y sesiynau yn annog mwy o bobol ifanc i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth ac o bosib rhoi eu henwau ymlaen ar gyfer etholiadau’r cynghorau.

“Rhaid i ni fod yn ffres ac ar flaen y gad wrth inni gael mwy o ymgeiswyr Plaid Ifanc nag erioed i sefyll yn etholiadau lleol 2017 ac mae’r Ysgol Aeaf yn ffordd arbennig i ddechrau ar y gwaith,” ychwanegodd Emyr Gruffydd.