Argyfwng yn Stormont (robert paul young CCA2.0)
Mae Aelod Seneddol mwya’ profiadol Gogledd Iwerddon wedi rhybuddio y gallai’r dalaith wynebu cyfnod hir o lywodraethu uniongyrchol o Lundain, oherwydd yr argyfwng o fewn y Cynulliad yno.

Ac mae Jeffrey Donaldson wedi rhybuddio bod peryg y daw’r “broses gymodi” i stop gyda pheryg mawr o danseilio’r gobaith am allu “rhannu dyfodol ar sail parch a goddefgarwch”.

Mae disgwyl i Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon yn Llywodraeth Prydain wneud datganiad y prynhawn yma am yr argyfwng sydd wedi chwalu’r llywodraeth ar y cyd rhwng yr Unoliaethwyr a’r Gweriniaethwyr gan adael y dalaith mewn tir neb gwleidyddol.

Mae’r Ysgrifennydd, James Borkenshire, wedi awgrymu y bydd yn ceisio cael trafodaethau rhwng y ddwy ochr ond, os bydd y rheiny’n methu, y bydd rhaid cael etholiad.

Cenfdir yr argyfwng

Fe ymddiswyddodd y Dirprwy Brif Weinidog, Martin McGuinness o Sinn Fein ar ôl i’r Prif Weinidog, Arlene Foster o blaid y DUP, wrthod camu o’r neilltu tros dro er mwyn cynnal ymchwiliad i sgandal cynllun ynni sy’n debyg o gostio hanner biliwn o bunnoedd i’r Llywodraeth yn Stormont.

Gan fod y ddau’n rhannu grym – trwy drefniant i gael llywodraeth ar y cyd rhwng yr Unolaethwyr Protestannaidd a’r Gweriniaethwyr Pabyddol – roedd ymddiswyddiad y naill yn golygu bod y llall yn colli ei swydd hefyd.

Gan na fydd Sinn Fein yn cynnig neb i lenwi swydd y Dirprwy Brif Weinidog nes y bydd Arlene Foster yn mynd, fydd hi ddim yn bosib ffurfio Llywodraeth.

Fe ddywedodd Jeffrey Donaldson ei fod yn disgwyl y byddai angen cyfnod hir o drafod ac efallai na fyddai cytundeb fyth yn bosib o dan y drefn bresennol.

‘Cilio i’w gwersylloedd’

“Y cyfan y bydd pobol ar y ddwy ochr yn ei wneud yw cilio i’w gwersylloedd eu hunain,” meddai Jeffrey Donaldson mewn blog. “Heb rannu grym i yrru hynny, fydd dim proses gymodi.

“Os ydyn ni am godi pont tros y rhaniad gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon, dyw hi ddim er budd neb i chwalu’r sefydliadau gwleidyddol heb ystyried pob posibilrwydd.”

Ond petai chwalu’n digwydd fe awgrymodd yr AS, sy’n hen ffrind gwleidyddol i Arlene Foster, y dylai’r Unolaethwyr fod yn pwyso am drefn newydd – sbardun posib i gael Sinn Fein i drafod.

Ond roedd gan Jeffrey Donaldson rybudd i’w ochr i hun hefyd – pe baen nhw’n parhau’n rhanedig, meddai, fe allai Sinn Fein gipio holl seddi’r brifddinas, Belffast.