Mae arlywydd nesa’r Unol Daeithiau wedi penodi ei fab-yng-nghyfraith, Jared Kushner, yn brif gynghorydd iddo yn y Ty Gwyn.

Mae’r penodiad yn golygu newid byd i’r gwerthwr tai a fydd o hyn allan yn llywio polisïau cartref a thramor, gan droi ei sylw’n benodol at drafod cytundebau masnach a’r hyn sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol.

Mae Donald Trump wedi dod i ddibynnu’n drwm ar Jared Kushner, sy’n briod â merch yr Arlywydd etholedig, Ivanka.

Ers yr etholiad, mae Jared Kushner wedi bod yn creu cysylltiadau â swyddogion yn Israel, ac fe fu’n cyfarfod yr wythnos ddiwetha’ gyda Gweinidog Tramor Prydain, Boris Johnson.

Fydd Jared Kushner ddim yn derbyn cyflog yn ei swydd newydd, ac fe fydd yn ymddiswyddo o fod yn brif weithredwr cwmni gwerthu tai ei deulu, ac o fod yn gyhoeddwr papur newydd y New York Observer.

Fydd Ivanka Trump, a fu â rhan amlwg iawn yn ystod ymgyrch arlywyddol ei thad, ddim yn cael swydd ffurfiol ganddo yn y Ty Gwyn.