Boris Johnson (Llun parth cyhoeddus)
Mae Boris Johnson wedi cynnal trafodaethau gydag aelodau o dîm Donald Trump wrth i’r Llywodraeth geisio cryfhau ei chysylltiadau gyda’r darpar-Arlywydd cyn iddo ddechrau yn ei swydd.
Fe gyfarfu’r Ysgrifennydd Tramor a mab-yng-nghyfraith Donald Trump, Jared Kushner, a’i brif strategydd Steve Bannon ar ôl hedfan i Efrog Newydd ddydd Sul.
Mae disgwyl i Boris Johnson gwrdd â Gweriniaethwyr blaenllaw yn Washington hefyd yn ystod ei ymweliad.