Wel, mae Cwis Mawr y Flwyddyn 2016 Golwg360 ar ben am flwyddyn arall, ac mae’n amlwg i nifer helaeth ohonoch chi gael tipyn o hwyl arni.

87% (52 allan o 60) oedd y sgôr buddugol – llongyfarchiadau i’r enillydd!

Dros y dyddiau nesaf, byddwn ni’n datgelu’r atebion fesul dipyn, ac yn eu torri i lawr yn ôl categorïau.

Fe ofynnon ni i chi ateb cwestiynau ar bum pwnc penodol – Gwleidyddiaeth Cymru, Chwaraeon, Rhyfeddodau’r Byd, y Celfyddydau a straeon Prydeinig.

Maddeuwch i ni am swnio braidd yn Eisteddfodol am eiliad, ond fe ddaeth 217 o ymatebion yn ôl, a’r safon yn amrywio’n fawr! Ac roedd rhaid rhoi ambell ymgais o’r neilltu am nad oedden nhw’n ateb gofynion y cwis – wnaethoch chi ddim cwblhau’r 60 cwestiwn.

Daeth atebion o bedwar ban y byd – yn llythrennol – gyda phobol o wledydd Prydain (yn anffodus, does dim modd gwahanu’r gwledydd), yr Unol Daleithiau, Canada, Yr Ariannin, Ffrainc, Y Ffindir a hyd yn oed Fietnam yn rhoi cynnig arni.

Rownd 1 – Gwleidyddiaeth Cymru

Dros y diwrnodau nesaf, byddwn ni’n datgelu’r atebion fesul dipyn, gan ddechrau heddiw gyda rownd Gwleidyddiaeth Cymru. Beth oedd eich sgôr chi, tybed?

1. Pa ganran o bobol Cymru a bleidleisiodd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd?

Ateb: 52.5%

Yn ddiau, dymuniad y mwyafrif o bleidleiswyr Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd oedd un o brif straeon gwleidyddol y flwyddyn. Serch hynny, dim ond 38% ohonoch chi oedd yn gwybod mai 52.5% o etholwyr Cymru oedd wedi pleidleisio o blaid tynnu allan o Frwsel.

2. Sawl sedd enillodd y Blaid Lafur yn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai?

Ateb: 29

Roedd eich gwybodaeth am yr ail gwestiwn dipyn gwell, gyda 68% ohonoch chi’n gwybod mai 29 sedd enillodd y Blaid Lafur yn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai. Pwy all anghofio am Leanne Wood yn herio Carwyn Jones am swydd y Prif Weinidog – a phleidlais dyngedfennol Kirsty Williams yn ei gwneud hi’n gyfartal. Ond Carwyn Jones aeth â hi yn y pen draw am dymor arall.

3. Roedd adroddiad gan ERS Cymru eleni’n awgrymu cynyddu nifer Aelodau’r Cynulliad o 60 i…?

Ateb: 87

Fe ddywedodd 41% ohonoch chi fod adroddiad ERS Cymru’n awgrymu cynyddu nifer Aelodau’r Cynulliad o 60 i 85 – ond 87 yw’r ateb cywir. Dim ond 19% ohonoch chi oedd yn gwybod hynny, fodd bynnag.

4. Aelod Cynulliad dros ba etholaeth yw’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas?

Ateb: Dwyfor Meirionnydd

Un o’r ffigurau mwyaf dadleuol ac amlwg yn y newyddion yn 2016 oedd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yn dilyn ei benderfyniad i adael grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad a pharhau’n Aelod Cynulliad annibynnol heb alw is-etholiad. Fe ddywedodd 94% ohonoch chi, yn gwbl gywir, mai Dwyfor Meirionnydd yw ei etholaeth. Ond am ba hyd, tybed

5. Beth fydd cyllideb awdurdodau lleol Cymru ar gyfer 2017-18?

Ateb: £4.1 biliwn

Fe achosodd ein cwestiwn am gyllid awdurdodau lleol Cymru yn 2017-18 gryn benbleth i chi. £4.1 miliwn yw’r ateb, ond dim ond 19% ohonoch chi atebodd y cwestiwn hwnnw’n gywir. £5.1 biliwn a £6.1 biliwn oedd yr atebion mwyaf cyffredin (37% yr un).

6. Pwy neu beth wnaeth ddisodli araith arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton yng nghynhadledd y blaid yn Bournemouth?

Ateb: Brêc coffi

At UKIP wnaethon ni droi ar gyfer ein chweched cwestiwn, ac at y ffrae oedd yn gysgod tros gynhadledd y blaid yn Bournemouth. Wrth i’r cecru rhwng Nathan Gill ac arweinydd newydd y blaid yn y Cynulliad, Neil Hamilton rygnu ymlaen, roedd 40% ohonoch chi wedi dweud mai araith gan y naill oedd wedi disodli araith y llall. Ond roedd yr ateb yn fwy rhyfedd fyth – do, fe gawson nhw frêc coffi! Da iawn i’r 32% ohonoch chi atebodd y cwestiwn yn gywir.

7. Sawl blwyddyn aeth heibio ers y Tân yn Llŷn?

Ateb: 80

55% ohonoch chi oedd yn gwybod mai 80 o flynyddoedd sydd ers y Tân yn Llŷn – fe gafodd yr ysgol fomio ym Mhenyberth ei rhoi ar dân gan Saunders Lewis, D.J. Williams a Lewis Valentine ar 8 Medi, 1936.

8. Cyhoeddwyd eleni y byddai Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan yn ymddeol yn 2017 ar ôl sawl blwyddyn?

Ateb: 14

Ers 2003 y bu’r Dr Barry Morgan yn Archesgob Cymru, ac fe gyhoeddodd yn ystod y flwyddyn y byddai’n rhoi’r gorau iddi ar Ionawr 31 eleni ar ôl 14 o flynyddoedd. Da iawn i’r 33% ohonoch chi oedd yn gwybod hynny.

9. Pam y cafodd Jenny Rathbone AC ei chyhuddo o “golli’r plot” eleni?

Ateb: Am iddi benodi Rheolwr Rhandiroedd i’w hetholaeth

Roedd cliw mawr yng ngeiriau’r cwestiwn hwn. “Colli’r plot” wnaeth Aelod Cynulliad Canol Caerdydd, Jenny Rathbone, yn ôl y Ceidwadwyr, ar ôl iddi benderfynu penodi Rheolwr Rhandiroedd ar gyfer ei swyddfa etholaeth. 42% ohonoch chi oedd yn gwybod yr ateb neu oedd wedi gweld ein cliw ni. Naw awr yr wythnos o waith oedd yn cael ei gynnig ganddi, a hynny am gyflog o £24,325 pro rata. Gwaith caib a rhaw i rywun….!

10. Pam fod Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar S4C i ymddiheuro ym mis Mawrth eleni?

Ateb: Is-deitlau gorfodol ar raglenni

Ychydig iawn o anhawster gawsoch chi wrth i 87% ohonoch chi nodi’n hollol gywir mai is-deitlau gorfodol ar raglenni am wythnos gyfan oedd y rheswm pam fod Cymdeithas yr Iaith wedi galw am ymddiheuriad gan S4C ym mis Mawrth. Onid Harold Wilson a ddywedodd fod wythnos yn amser hir yn y byd gwleidyddol? Roedd yn sicr yn teimlo felly…

11. Pa wleidydd o Gymru fyddai’n gwneud James Bond da, yn ôl cyn-Brif Weinidog Prydain, David Cameron?

Ateb: Stephen Crabb

Stephen Crabb, yn ôl David Cameron, fyddai’r gwleidydd mwyaf addas o Gymru i chwarae’r cymeriad James Bond, ac roedd 79% ohonoch chi’n gwybod hynny. Roedd yn sicr yn flwyddyn i’w hanghofio i gyn-Ysgrifennydd Cymru yn dilyn adroddiadau am ei fywyd preifat a’i ‘siglodd’ i’w seiliau…

12. Pa ddigwyddiad ym mis Chwefror eleni a gafodd ei ddisgrifio fel “digwyddiad mwya’r Cymoedd ers 20 mlynedd”?

Ateb: Ymweliad Jeremy Corbyn ag Aberdâr

Roedd cwestiwn ola’r rownd gyntaf yn gofyn i chi nodi pa ddigwyddiad ym mis Chwefror oedd “digwyddiad mwya’r Cymoedd ers ugain mlynedd”. Wel ie, digon teg, fe fyddech chi’n disgwyl mai buddugoliaeth Leanne Wood dros Leighton Andrews fyddai’r ateb cywir (dyna oedd ateb 64% ohonoch chi). Ond na. Ymweliad Jeremy Corbyn ag Aberdâr oedd dan sylw yma, gyda thros 850 o docynnau wedi cael eu gwerthu ar gyfer ei araith yng nghanolfan hamdden Sobell. Y trefnwyr oedd wedi ei alw’n ddigwyddiad mwya’r Cymoedd ers ugain mlynedd. Da iawn i’r 21% ohonoch chi atebodd y cwestiwn yn gywir.

Atebion y rowndiau Chwaraeon a Rhyfeddodau’r Byd ddaw nesaf – ond fe gewch chi beth amser i gnoi cil ar y rownd gyntaf hon cyn hynny.