Mae lori wedi taro i mewn i griw o filwyr yn Israel, gan anafu o leiaf 15 o bobol.
Aeth y lori oddi ar y ffordd yn Jerwsalem fore Sul cyn taro i mewn i’r milwyr oedd newydd ddod oddi ar fws.
Mae’r gyrrwr wedi cael ei “niwtraleiddio”, yn ôl yr awdurdodau.
Mae o leiaf ddau o bobol wedi cael eu hanafu’n ddifrifol.
Dyma’r ymosodiad honedig diweddaraf gan Balestiniaid ar filwyr o Israel.