Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon (Llun: Llywodraeth Agored)
Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon yn mynnu nad yw hi’n “blyffio” am y posibilrwydd o gynnal ail refferendwm annibyniaeth, wrth iddi gyhuddo Prif Weinidog Prydain o fod ag agwedd “annerbyniol” at Brexit.
Awgrymodd Nicola Sturgeon y byddai meithrin agwedd “galed” at Brexit yn debygol o arwain at ail refferendwm o fewn pum mlynedd.
Ond mae hi’n dweud ei bod hi’n barod i gyfaddawdu ynghylch amodau’r cytundeb i adael yr Undeb Ewropeaidd, er bod y penderfyniad wedi cael ei wneud yn erbyn ewyllys y rhan fwyaf o bobol yr Alban.
Dywedodd Nicola Sturgeon y gallai Brexit ‘meddal’, sef aros yn rhan o’r farchnad sengl, olygu bod modd gohirio ail refferendwm am y tro.
Ond dywedodd wrth raglen Andrew Marr y BBC y byddai hi’n barod am y refferendwm pe na bai’r cytundeb yn dderbyniol.
“Byddan nhw’n gwneud camgymeriad mawr os ydyn nhw’n meddwl fy mod i’n blyffio mewn unrhyw ffordd.
“Os ydyn ni’n mynd i gael ein hanwybyddu, os yw ein llais wedi’i roi o’r neilltu, ein buddiannau wedi’u rhoi o’r neilltu, yna gallai hynny ddigwydd gydag unrhyw beth.
“Ac mae’n rhaid i ni ofyn i ni ein hunain yn yr Alban a ydyn ni’n hapus i gael cyfeiriad ein gwlad, y math o wlad ry’n ni am ei chael, yn cael ei benderfynu gan lywodraeth Geidwadol asgell dde am efallai’r 20 mlynedd nesaf, neu a ydyn ni am reoli ein dyfodol ein hunain.”
Yn hytrach na “blaenoriaethu” cadw Prydain yn y farchnad sengl, awgrymodd Nicola Sturgeon fod Theresa May yn ceisio cadw gwrthwynebwyr yr Undeb Ewropeaidd yn hapus.
‘Rhaniadau ac ansicrwydd’
Yn dilyn sylwadau Nicola Sturgeon, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban, Kezia Dugdale eu bod yn “ymgais eto fyth gan yr SNP i greu rhaniadau ac ansicrwydd ar adeg pan fo angen i’r wlad gyd-dynnu mwy nag erioed o’r blaen”.
Galwodd ar Nicola Sturgeon i ddweud na fyddai hi’n galw ail refferendwm gan ddweud bod “yr heriau o flaen yr Alban yn rhy fawr” i sylw gael ei dynnu oddi arnyn nhw a thua refferendwm arall.
Galwodd hefyd am Ddeddf Uno newydd yn sgil y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, er mwyn ail-ddiffinio’r berthynas rhwng gwledydd Prydain.