Mae llysgennad Israel wedi ymddiheuro ar ôl i swyddog y llysgenhadaeth gael ei ddal yn disgrifio sut i “ddod â Syr Alan Duncan i lawr”.

Mewn sgwrs breifat a gafodd ei recordio’n gudd, awgrymodd Shai Masot fod Syr Alan Duncan yn achosi “llawer o broblemau”, ac fe wfftiodd Boris Johnson fel “twpsyn”.

Cafodd y sgwrs mewn cinio ym mis Hydref ei recordio fel rhan o ymchwiliad gan Al Jazeera.

Roedd Shai Masot yn cael sgwrs â Maria Strizzolo, sy’n gweithio i’r Gweinidog Addysg, Robert Halfon, gan ofyn iddi a allai roi enwau pobol iddi y byddai’n hoffi “dod â nhw i lawr”.

Fe awgrymodd yntau Boris Johnson fel un enw posib, ond hefyd Syr Alan Duncan, am ei fod e wedi bod yn beirniadu Israel.

‘Gwarthus’

Wrth ymateb i’r sylwadau, dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Dethol Materion Tramor, Crispin Blunt wrth y Mail on Sunday eu bod yn “warthus”.

Dywedodd Maria Strizzolo wrth y papur fod y sylwadau’n rhai “tafod yn y boch” ac yn “hel clecs”.

‘Wfftio’

Mewn datganiad, mae llefarydd ar ran Llysgenhadaeth Israel wedi wfftio’r sylwadau fel rhai “cwbl annerbyniol”.

Cadarnhaodd na fyddai’r swyddog yn parhau yn ei swydd, a bod Syr Alan Duncan wedi derbyn ymddiheuriad.