Syr Ivan Rogers wedi beirniadu diffyg cynllunio Llywodraeth Prydain wrth adael yr Undeb Ewropeaidd
Mae Syr Ivan Rogers wedi gadael y gwasanaeth sifil ddyddiau’n unig ar ôl iddo ymddiswyddo fel llysgennad y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd.

Daeth ei ymddiswyddiad fel sioc i nifer ar Ionawr 3, ar ôl iddo feirniadu staff am “feddwl yn drwsgl” am y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Cafodd ei ymadawiad ei gadarnhau gan y Swyddfa Dramor, a ddiolchodd iddo am ei waith.

Mae lle i gredu y bydd yn derbyn cyflog tri mis, ond dydy e ddim yn derbyn unrhyw dâl ychwanegol, mae’n debyg.

Ei olynydd fydd Syr Tim Barrow, cyn-lysgennad Rwsia sy’n cael ei ddisgrifio fel “trafodwr profiadol a chadarn”.

Roedd Syr Ivan Rogers wedi beirniadu Llywodraeth Prydain am nad oedd gweision sifil yn ymwybodol o’u cynlluniau wrth i’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd fynd rhagddi.