Carwyn Jones Llun: Y Blaid Lafur
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi cael ei gyhuddo o “gwrso penawdau” yn ystod ei daith i Norwy.

Mae e wedi manteisio ar ei daith i’r wlad i alw unwaith eto am fynediad i’r farchnad sengl ar ôl i Lywodraeth Prydain gwblhau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae e eisoes wedi dweud ei fod yn barod i dderbyn dymuniad y bobol i Lywodraeth Prydain gael pwerau’n ymwneud â mewnfudwyr.

Ond o safbwynt y farchnad sengl, mae Carwyn Jones yn “malio dim am reality gwleidyddol”, yn ôl Andrew RT Davies.

Dywedodd mewn datganiad: “Mae’n cael ei dderbyn yn eang gan y ddwy ochr i’r Sianel na allwch chi gael mynediad i’r farchnad sengl heb gyfyngiadau heb eich bod yn derbyn y gall pobol symud yn rhydd.

“Ond eto i gyd, mae’r Prif Weinidog ar hyn o bryd yn gwneud mynediad yn llinell goch absoliwt, tra ei fod e ar yr un pryd yn derbyn yr angen i dderbyn yr hawl am reoli mewnfudwyr yn ôl.

“Yn hytrach na chwrso penawdau, dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gydweithio â Llywodraeth y DU i sicrhau’r cytundeb gorau i Gymru.”