Mae Aelodau Seneddol yn galw am gyflymu’r broses o gyflwyno deddfwriaeth er mwyn sicrhau nad yw’r amgylchedd yn cael ei niweidio o ganlyniad i Brexit.

Mae Pwyllgor Archwilio’r Amgylchedd am weld gweinidogion yn cyflwyno Deddf Gwarchod yr Amgylchedd er mwyn lleihau effaith y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd ar fywyd gwyllt a chynefinoedd.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Mary Creagh y gallai deddfau i warchod bywyd gwyllt a lleoedd arbennig ddod yn “ddeddfwriaeth zombie” ar ôl i Brydain adael Brwsel.

“Mae ffermio’n wynebu peryglon sylweddol yn y DU – o golli arian a thariff ar allforion fferm i fwy o gystadleuaeth o wledydd â safonau bwyd, lles anifeiliaid ac amgylchedd gwannach.

“Rhaid i’r Llywodraeth beidio â masnachu’r gwarchodion allweddol hynny i ffwrdd wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.”

‘Hanfodol’

Mae adroddiad diweddar yn dweud y gallai’r amgylchedd gael ei niweidio’n sylweddol yn sgil Brexit oni bai bod Llywodraeth Prydain yn gweithredu’n gynnar yn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae cynlluniau ar y gweill i drawsnewid cyfreithiau Ewropeaidd yn gyfreithiau Prydeinig.

Ond mae’r pwyllgor yn rhybuddio na ddylid ailadrodd mesurau Ewropeaidd yn union fel ydyn nhw.

Mae’r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt wedi croesawu’r adroddiad, gan ddweud bod “80% o’n deddfau amgylcheddol ynghlwm wrth yr Undeb Ewropeaidd felly mae eu gwarchod a’u gwella yn ystod ac ar ôl Brexit yn hanfodol”.

Mae disgwyl i weinidogion Llywodraeth Prydain ymateb i’r adroddiad maes o law.