Mae llysgennad y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd wedi ymddiswyddo, a hynny fisoedd yn unig cyn i’r “trafodaethau swyddogol” ynglŷn â Brexit ddechrau.

Roedd disgwyl i Syr Ivan Rogers barhau yn ei swydd tan fis Tachwedd 2017, ond daeth i’r amlwg ei fod wedi rhybuddio Llywodraeth Prydain y gallai cytundeb fasnach ar ôl Brexit gymryd hyd at ddegawd i’w gwblhau.

Awgrymodd hefyd fod rhai o arweinwyr Ewropeaidd yn credu mai trefniant fasnach rydd fydd y cytundeb Brexit, yn hytrach na pharhau ag aelodaeth o’r farchnad sengl.

Cytundeb – ‘deng mlynedd’

Wrth ymateb, dywedodd cadeirydd pwyllgor Brexit Tŷ’r Cyffredin, Hilary Benn, nad yw ei ymddiswyddiad yn “beth da,” gan rybuddio fod angen i rywun gymryd at y gwaith yn syth i sicrhau “parhad” wrth i Ivan Rogers drosglwyddo’r awenau.

Dywedodd cadeirydd yr ymgyrch Leave.EU, Arron Banks: “Hwn oedd y dyn wnaeth honni y gallai gymryd hyd at ddeng mlynedd i sicrhau cytundeb ar Brexit … Mae e o leiaf wedi gwneud y peth anrhydeddus drwy ymddiswyddo.”