Jeremy Corbyn - ailystyried ymhen dwy flynedd? (Rwedland CCA4.0)
Mae un o’i gefnogwyr penna’ wedi awgrymu y gallai’r arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, ystyried rhoi’r gorau iddi pe bai’r polau piniwn yn dal i fod yn wael ymhen dwy flynedd.

Fe fyddai pawb – gan gynnwys yr arweinydd a’r ‘Canghellor’ Llafur John McDonnell – yn astudio’r sefyllfa bryd hynny, meddai Len McCluskey, Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb mwya’, Unite.

“Dydyn nhw ddim yn egomaniacs,” meddai’r dyn sydd wedi bod yn gefnogwr cry’ i’r ddau. “Fydden nhw ddim am ddal gafael mewn grym er ei fwyn ei hun.”

Ailystyried

Roedd Len McCluskey’n siarad gyda phapur y Daily Mirror gan alw ar i Jeremy Corbyn gael cyfle i brofi ei werth.

Ond fe allai bod angen ailystyried pe na bai’r Prif Weinidog yn galw etholiad sydyn a Llafur yn parhau’n isel yn yr arolygon barn yn 2019, flwyddyn cyn diwedd tymor swyddogol y Llywodraeth.

Mae Len McCluskey ei hun yn wynebu her i’w swydd, gyda chystadleuydd yn sefyll etholiad yn ei erbyn a mewnfudo ac atal rhyddid i weithwyr symud ar draws Ewrop yn un o’r pynciau dadlau.