Brenhines Elizabeth II (Llun: PA)
Mae Llywodraeth Geidwadol Prydain wedi amddiffyn eu penderfyniad i anrhydeddu rhai o’u prif roddwyr yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines.

Maen nhw wedi cael eu beirniadu gan y Blaid Lafur am wobrwyo cyfres o ffigurau dylanwadol o fewn y blaid, gan gynnwys Syr David Ord, sydd wedi rhoi £930,000 i’r blaid a Dominic Johnson CBE, a gynigiodd lety i David a Samantha Cameron ar ôl iddyn nhw adael Downing Street ym mis Gorffennaf.

Daw’r anrhydeddau er i Brif Weinidog Prydain, Theresa May ddweud ei bod hi wedi “bwldagu” ar ôl gweld rhestr o bobol a fyddai’n cael eu hanrhydeddu ar achlysur ymddiswyddiad ei rhagflaenydd.

Mae Llywodraeth Prydain wedi amddiffyn y broses sy’n cael ei defnyddio wrth benderfynu pwy sy’n cael anrhydeddau.

“Mae’r holl enwebiadau ar gyfer anrhydeddau’n cael eu hasesu gan un o naw pwyllgor anrhydeddau annibynnol.

“Mae’n annheg beirniadu unigolion sy’n cael eu hanrhydeddu dim ond oherwydd eu bod nhw wedi dewis rhoi i blaid wleidyddol.”

Dywedodd llefarydd ar ran arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn fod y Ceidwadwyr yn “dirmygu” y system anrhydeddau.

“Mae pob penodiad drwy ffrindgarwch yn sarhau’r bobol anghredadwy o bob cwr o Brydain sy’n cael eu gwobrwyo am y cyfraniadau gwych maen nhw’n eu gwneud i’n bywyd cenedlaethol ni.”

Gallai Theresa May hefyd wynebu nifer o gwynion mewn perthynas â 14 o anrhydeddau a gafodd eu rhoi i swyddogion y Swyddfa Gartref.

Mae’r drefn hefyd wedi cael ei beirniadu am “wobrwyo methiant”, gyda Mark Lowcock, pennaeth cymorth tramor Prydain, yn cael ei urddo’n farchog.

Cafodd Adran Datblygiad Rhyngwladol y Llywodraeth ei beirniadu’n ddiweddar am adeiladu maes awyr gwerth £285 miliwn ar ynys St Helena, lle mae hi’n rhy wyntog i awyrennau masnachol lanio’n ddiogel.

Mae Mark Lowcock wedi’i alw’n “Syr Waste-a-Lot” gan yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Philip Davies.

Ymhlith y penaethiaid eraill sydd wedi cael eu hanrhydeddu ar ôl i’w hadrannau gael eu beirniadu mae Sarah Pearson (Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi) ac Oliver Morley (DVLA).