(llun: PA)
Huw Prys Jones yn edrych yn ôl ar y chwalfa wleidyddol wedi refferendwm yr Undeb Ewropeaidd

Mae’n sicr fod y bleidlais ym mis Mehefin wedi arwain at y chwalfa wleidyddol fwyaf ers cenedlaethau.

Mae wedi amlygu a dwysáu rhaniadau diwylliannol dwfn a chwerw a’r rheini’n torri ar draws ffiniau pleidiau.

Mae’r gwahaniaethau mewn gwerthoedd ac agweddau a hunaniaeth rhwng dwy ochr y ddadl ar Ewrop yn llawer iawn dyfnach nag unrhyw wahaniaethau gwleidyddol eraill bellach.

O ganlyniad, mae’r syniad y gall y pleidiau roi’r ddadl ar Ewrop o’r naill du a mynd yn ôl i sgorio’r un hen bwyntiau yn erbyn ei gilydd a ffraeo ar yr hen ddadleuon yn gwbl afrealistig.

Llai clir fodd bynnag ydi i ba raddau y mae’r pleidiau gwleidyddol yn llawn sylweddoli hyn.

Ymateb llywaeth

Os oedd canlyniad y refferendwm ei hun yn ddigon o siom i lawer ohonom, roedd ymateb llywaeth llawer o wleidyddion a oedd blaid aros yn siom llawer iawn gwaeth.

Roedd eu parodrwydd i ddatgan un ar ôl y llall eu bod yn ‘parchu’ y canlyniad yn awgrymu diniweidrwydd difrifol ar eu rhan.

Y gwir amdani ydi bod arweinwyr Brexit wedi bod mor gelwyddog ac anonest fel eu bod nhw wedi fforffedu unrhyw hawl i ddisgwyl i neb barchu dilysrwydd eu buddugoliaeth.

Petai arweinwyr y rhai a oedd o blaid aros wedi gwneud safiad cadarn a mynd ati’n systematig i danseilio hygrededd y canlyniad yn yr wythnosau’n syth ar ôl y bleidlais, mi fydden nhw wedi gallu rhoi llawer mwy o bwysau ar y llywodraeth.

Yn lle hynny, ychydig unigolion dewr fel Gina Miller ydi’r unig rai i wneud safiad gwirioneddol.

Mae’r blaid Geidwadol fel petai hi wedi ildio fel un gŵr i’w charfan mwyaf gorffwyll o Ewroffobiaid, gyda Theresa May yn ymfalchïo mewn bod yn byped iddyn nhw.

Mae ymateb y blaid Lafur os rhywbeth yn waeth fyth, gyda chefnogwyr Jeremy Corbyn ymysg y gwaethaf i geisio dangos eu cefnogaeth i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Heblaw am y ddyletswydd foesol amlwg i wneud safiad yn erbyn agweddau rhagfarnllyd Nigel Farage a’i debyg, rhaid hefyd amau doethineb Llafur o safbwynt ei hunan-les pleidiol.

Mae’n wir fod llawer o gadarnleoedd Llafur wedi pleidleisio’n gryf dros Brexit. Ar y llaw arall mae’r arbenigwr gwleidyddol John Curtice yn amcangyfrif fod hyd at tua tri chwarter cefnogwyr Llafur wedi pleidleisio dros aros. Trwy ddibrisio cefnogaeth y rhain, mae Llafur nid yn unig yn gwneud cam â nhw, ond hefyd yn troi cefn ar drwch ei phleidleiswyr iau, y bydd hi’n dibynnu fwyfwy ar eu cefnogaeth yn y dyfodol.

Yn yr un modd, beth mae hi’n ei ennill trwy fynd ar ei gliniau gerbron cefnogwyr Brexit? Mae mwyafrif llethol y rhain yn bobl na fyddai byth yn ystyried ei chefnogi, a llawer o’r lleill yn rhai sy’n annhebygol o dywyllu gorsaf bleidleisio eto yn eu bywyd.

Tybed a fydd y ffordd y mae wedi cofleidio Brexit yn profi i fod yr hoelen olaf yn arch y Blaid Lafur?

Fydd ei hagwedd byth yn ddigon i fodloni’r pleidleiswyr y mae wedi eu colli i Ukip, ac mae hi’n ei rhoi ei hun yn agored i golli rhagor o’i phleidleisiau i’r Democrataidd Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd, ac i Blaid Cymru yng Nghymru.

Mae agweddau’r pleidiau hyn wedi bod yn llawer mwy goleuedig na Llafur, er bod lle ganddyn hwythau hefyd i ddatgan yn fwy cadarn a diamwys eu barn fod yr etholwyr wedi gwneud camgymeriad mawr wrth bleidleisio dros Brexit. Does ganddyn hwythau chwaith, mwy na Llafur, fawr ddim i’w golli trwy bechu cefnogwyr Brexit.

Herio’r celwyddau ar fewnfudo

Canlyniad gwendidau’r gwrthbleidiau ydi bod y llywodraeth yn cael rhwydd hynt i ddweud celwydd fel y mynnont. Mae’n gwbl annerbyniol bod y llywodraeth yn cael dweud pethau fel bod pleidlais ‘lethol’ dros adael pan mai pleidlais ddigon agos oedd hi mewn gwirionedd. Neu’r ymadrodd ynfyd hwnnw sy’n cael ei adrodd hyd at syrffed gan Theresa May: “we are following the instructions of the British people”. Os mai dilyn cyfarwyddiadau ydi’r nod, beth ydi diben cael gwleidyddion o gwbl?

Mae’r celwyddau i’w gweld ar eu gwaethaf wrth ymdrin â mewnfudo.

Unwaith eto, rydan ni’n clywed yn barhaus fod ‘y bobl’ wedi pleidleisio yn erbyn mewnfudo.

Sut bynnag yr edrychwn ni ar yr honiad yma, mae’n ddi-sail. I ddechrau, does dim unrhyw fath o dystiolaeth swyddogol ar agwedd pobl ar fewnfudo gan na chafodd y cwestiwn ei ofyn. Ond yn fwy na hyn, hyd yn oed pe bai tystiolaeth mai mewnfudo oedd prif bryder y mwyafrif o gefnogwyr Brexit, mae hynny ymhell o fod yn gyfystyr â mwyafrif o’r boblogaeth, o gofio nad oedd holl gefnogwyr Brexit ond yn cyfrif am 52% o’r boblogaeth. Byddai’r un mor hawdd dadlau bod mwyafrif y boblogaeth wedi pleidleisio yn erbyn cyfyngiadau ar fewnfudo.

Mae’r llywodraeth yn cael llawer gormod o rwydd hynt i feio rheolau’r Undeb Ewropeaidd am yr holl fewnfudo o ddwyrain Ewrop.

Oni ddylid mynnu bod y Brexitwyr edrych yn nes adref?

Tybed nad rheswm llawer pwysicach dros yr holl fewnfudo ydi bod yn well gan gymaint o gefnogwyr Brexit dreulio’u dyddiau mewn tafarndai Weatherspoon a gwario’u budd-daliadau ar sianelau lloeren na gwneud diwrnod gonest o waith?

Rhagrith Llafur

Mae’n arbennig o druenus gweld Aelodau Seneddol Llafur yn syrthio ar draws ei gilydd i drio dweud peth mor ddrwg ydi mewnfudo.

Pobl fel nhw ydi’r union bobl sy’n gyfrifol am y llanast ydan ni yno drwy drio mygu unrhyw drafodaeth ar fewnfudo yn y gorffennol.

Nhw a’u tebyg a arferai fanteisio ar unrhyw gyfleoedd i gyhuddo pobl o fod yn hiliol, fel y gwelsom ninnau yng Nghymru dros y blynyddoedd.

Pryd bynnag mae unrhyw wleidydd Llafur sydd wedi gwneud cyhuddiadau o hiliaeth yn erbyn cenedlaetholwyr Cymraeg yn y gorffennol yn dangos rhagrith o’r fath ar fewnfudo, mae angen iddo fo neu hi gael eu herio’n ddidrugaredd ar y mater.

Yn yr un modd, dylai unrhyw rai a ddioddefodd gyhuddiadau o’r fath fynnu ymddiheuriad personol ganddyn nhw.

Dylai fod lle a phob hawl i drafod mewnfudo a’r manteision neu anfanteision a ddaw yn ei sgil, boed hwnnw’n fewnfudo o’r tu allan i Brydain neu o fewn Prydain. A ddylai neb gael eu gwahardd rhag dweud bod mewnfudiad Saeson i rai ardaloedd o Gymru wedi arwain at newid diwylliannol llawer mwy dinistriol nag unrhyw fewnfudo o ddwyrain Ewrop i unrhyw ran o Brydain.