Y Swyddfa Dramor, Llundain (llun: Llywodraeth Prydain)
Mae’r Llywodraeth yn ceisio gwadu pa mor gymhleth fydd Brexit, yn ôl arweinydd undeb yr uwch-weision sifil.

Mae Dave Penman, ysgrifennydd cyffredinol yr FDA, yn rhybuddio nad oes gan y gwasanaeth sifil yr adnoddau digonol ar gyfer y dasg heriol o adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae gweinidogion yn rhy llwfr i gydnabod pa mor gymhleth fydd hyn a faint o amser y bydd yn ei gymryd,” meddai.

“Fe fydd yn rhaid i’r gwasanaeth sifil gael mwy o adnoddau i ymdrin â Brexit neu fe fydd yn rhaid iddo newid ei flaenoriaethau.

“Does ar weinidogion ddim eisiau cydnabod bod y gwaith a’r dewisiadau yn gymhleth oherwydd nad yw’n swnio’n dda yn wleidyddol a does arnyn nhw ddim eisiau gwneud dewisiadau caled ynghylch blaenoriaethau.

“Mae’n amlwg fod y Llywodraeth mewn sefyllfa lle maen nhw’n ceisio gwadu ei chymhlethdod.”