Nigel Farage (Llun: PA)
Mae cyn-arweinydd UKIP Nigel Farage yn honni bod gweinidogion Llywodraeth Prydain wedi cael eu gwahardd rhag siarad â fe.

Mae e’n awyddus i fod yn bont rhwng Llywodraeth Prydain a’r Unol Daleithiau o dan eu darpar Arlywydd Donald Trump, yn ôl adroddiadau.

Nigel Farage oedd y gwleidydd cyntaf o wledydd Prydain i gyfarfod â’r Gweriniaethwr ar ôl iddo gael ei ethol yn olynydd i Barack Obama.

Dydy Downing Street ddim wedi gwneud sylw, ond maen nhw wedi dweud yn y gorffennol nad oes “lle” i Nigel Farage yn y llywodraeth.

Dywedodd Nigel Farage wrth Radio 4: “Os oeddech chi am fasnachu gyda’r cwmni mwyaf yn y byd a bod yna rywun â’r cysylltiadau, y peth cyntaf ry’ch chi’n ei wneud yw cyflogi’r person hwnnw.

“Mae’r ffaith nad yw Downing Street am fy nghydnabod i, wedi gwahardd gweinidogion rhag siarad â fi hyd yn oed, mae’n dangos lefel gul, bitw, blwyfol gwleidyddiaeth Prydain – mae’n drueni.”

Fis diwethaf, cafodd Nigel Farage dynnu ei lun gyda Donald Trump mewn lifft ger ei gartref yn Efrog Newydd.

Ar Twitter, dywedodd Donald Trump y byddai Nigel Farage yn gwneud “jobyn gwych” fel llysgennad wrth bontio rhwng gwledydd Prydain a’r Unol Daleithiau.