Rali annibyniaeth yng Nghatalwnia (Llun: Berta Gelabert Vilà)
Mae erlyn Llywydd Senedd Catalwnia yn “annemocrataidd” ac yn “drosedd yn erbyn ewyllys poblogaidd pobol Catalwnia”, yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, Simon Thomas.

Mae Carme Forcadell yn wynebu cael ei herlyn gan lysoedd Sbaen yn dilyn cyhuddiadau o lygredd gwleidyddol ac anufudd-dod ar ôl rhoi’r hawl i Senedd Catalwnia gynnal pleidlais ar annibyniaeth.

Mewn datganiad, dywedodd Simon Thomas fod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi addo ymchwilio i’r mater.

“Mae’r ffaith bod Ms Forcadell yn wynebu erlyn am ganiatáu trafodaeth ar ddyfodol ei chenedl yn sarhad at ddemocratiaeth.

“Mae llysoedd Sbaen yn cael eu gwleidyddoli trwy ymgeision i rwystro cynllun Llywodraeth Catalwnia i roi refferendwm i’w phobl ar ddyfodol eu cenedl.

“Mae’r achos llys hwn yn annemocrataidd ac yn drosedd yn erbyn ewyllys poblogaidd pobol Catalwnia.

“Mewn gwlad ddemocrataidd, fel rydyn ni wedi ei weld yn yr Alban ac hefyd yng Nghymru, mae trafodaeth ar ddyfodol cenedl yn hollbwysig i ddangos bod cenedl yn gallu symud ar y broses gam wrth gam gyda’i gilydd.”

Ynghyd ag aelodau eraill Plaid Cymru yn y Cynulliad, mae’r alwad wedi’i chefnogi gan Mike Hedges o’r Blaid Lafur.