Cynlluniau ar gyfer gorsaf bwer Wylfa Newydd (Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru)
Mae ymgynghoriad wedi’i lansio heddiw i asesu dyluniad yr orsaf bŵer arfaethedig yn Ynys Môn, sef Wylfa Newydd.

Bwriad yr ymgynghoriad gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd ydy asesu diogelwch yr orsaf bŵer niwclear sy’n cael ei ddatblygu gan gwmni Hitachi-GE.

Byddan nhw’n rhoi sylw i ddyluniad yr Adweithydd Dŵr Berw Uwch y mae Horizon yn gobeithio’i ddatblygu yn Wylfa Newydd ac yn Oldbury yn ne Swydd Gaerloyw hefyd.

Mae’r ymgynghoriad yn ystyried ei ddiogelwch a’i effaith ar yr amgylchedd wrth reoli gwastraff.

‘Cam cyntaf y broses’

“Ein bwriad yw sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal yn gynaliadwy, yn cael eu hybu a’u defnyddio,” meddai Tim Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru’r gogledd a’r canolbarth.

“Yn Wylfa Newydd byddwn yn gwneud hyn mewn tair ffordd: asesu dyluniad yr adweithyddion, penderfynu ar drwyddedau amgylcheddol penodol ar gyfer y safle a darparu cyngor i fudiadau eraill ynglŷn â’r penderfyniadau y mae angen iddynt eu gwneud. Yr ymgynghoriad yma yw cam cyntaf y broses.”

Mae modd dod o hyd i’r ymgynghoriad yma, ac fe fydd yn cau ar 3 Mawrth 2017.

Peilonau

Yn y cyfamser, mae cynghorwyr Ynys Môn yn cynnal cyfarfod arbennig heddiw i drafod eu hymateb i gynlluniau’r Grid Cenedlaethol i godi peilonau ar draws yr ynys i bweru’r orsaf newydd.

Mae Prif Weithredwr Cyngor Môn wedi dweud mewn llythyr at y Grid mai’r “unig ddewis derbyniol arall yw tanddaearu’r cysylltiad.”

Mae ymgynghoriad y Grid Cenedlaethol yn dod i ben ddydd Gwener, Rhagfyr 16.