Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, gafodd ei henwi’n Aelod Cynulliad y Flwyddyn mewn seremoni yng Nghaerdydd nos Fawrth – a hynny am iddi lwyddo i gipio sedd y Rhondda oddi ar Lafur yn etholiad mis Mai.

Roedd beirniad gwobrau Gwleidydd y Flwyddyn ITV Cymru 2016 yn dweud i arweinydd Plaid Cymru hefyd wneud argraff gyda “ei phenderfyniad i safleoli Plaid Cymru fel gwrthblaid ond un oedd â dylanwad dros Lywodraeth Cymru’.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Aelod Cynulliad y Rhondda, sy’n byw ym Mhenygraig, ennill wobr yn y seremoni – llynedd, dyfarnwyd iddi wobr Gwleidydd Cymreig y Flwyddyn.

Ym Mai eleni, llwyddodd i wrthdroi mwyafrif Llafur o 6,739 yn 2011 i gipio’r sedd ac ennill mwyafrif o 3,459 ei hun. Yr oedd y canlyniad yn ogwydd o 21.1% i Blaid Cymru.

Wedi derbyn y wobr, dywedodd fod hon yn wobr i bawb a’i helpodd i greu un o’r ysgytwadau mwyaf yng ngwleidyddiaeth Cymru eleni.