David Davis (Steve Punter CCA2.0)
Fe glywodd cynulleidfa o bobol fusnes yng Nghaerdydd y bydd Llywodraeth Prydain yn fodlon cyfaddawdu ar eu hymgais i gyfyngu ar fewnfudo.

Fe ddywedodd Ysgrifennydd Brexit wrthyn nhw y bydden nhw’n parhau i ganiatáu mewnfudo gan weithwyr mewn diwydiannau allweddol.

Ac fe ddaeth cyhoeddiad David Davis ychydig oriau ar ôl iddo hefyd gydnabod y gallai Llywodraeth Prydain barhau i dalu arian i’r Undeb Ewropeaidd er mwyn aros yn y farchnad sengl.

‘Dim prinder llafur’

“Wrth i ni ail afael yn awenau mewnfudo trwy roi diwedd ar symud dilyffethair, fel y mae wedi gweithio gyn hyn, gadewch i fi ddweud hefyd na fyddwn ni’n gwneud hynny mewn ffordd sydd yn erbyn budd economaidd y genedl,” meddai David Davis wrth CBI Cymru yng Nghaerdydd.

“Fel y dywedodd y Canghellor, rhaid i Brydain ennill y frwydr fydeang am dalent. Does neb eisiau gweld prinder llafur mewn sectorau allweddol. Fyddai hynny ddim er budd i neb.”

Fe fydd y datganiad – ynghyd â’r parodrwydd i dalu am aros yn y farchnad sengl – yn codi gwrychyn y rhai sydd o blaid ‘Brexit caled’.