Mae llai o bobol yn cefnogi annibyniaeth i’r Alban nag oedd wedi pleidleisio o blaid adeg refferendwm 2014.

45% oedd wedi pleidleisio o blaid gadael Prydain yn y refferendwm, ond dim ond 44% a fyddai’n cefnogi annibyniaeth ar hyn o bryd, yn ôl pôl gan YouGov ar gyfer papur newydd y Times.

Cafodd 1,134 o bobol eu holi rhwng 24 a 29 Tachwedd.

Daw’r pôl fel rhan o arolwg cenedlaethol gan yr SNP wrth iddyn nhw geisio casglu barn hyd at 2,000,000 o bleidleisiwyr am Ewrop, Brexit ac annibyniaeth.

Mae Prif Weinidog yr Alban ac arweinydd y blaid, Nicola Sturgeon yn parhau i ystyried galw ail refferendwm a hynny yn sgil canlyniad refferendwm Ewrop.

Yr Alban a’r farchnad sengl

Fe allai’r Alban fabwysiadu trefniadau newydd a fyddai’n eu galluogi i aros o fewn y farchnad sengl.

Ond mae’r pôl yn awgrymu mai dim ond 31% o Albanwyr sydd o blaid ymgyrchu dros annibyniaeth yn ystod y ddwy flynedd nesaf, gyda 56% yn erbyn, a’r 13% sy’n weddill yn ansicr.

Dim ond 22% a ddywedodd ei bod yn “realistig” fod yr Alban yn parhau’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd, gyda 62% yn dweud “fwy na thebyg na fyddai’n realistig”.