Bydd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon yn teithio i Ddulyn ddydd Llun yn y gobaith o fagu cysylltiadau o’r newydd â Llywodraeth Iwerddon yn sgil y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd hi’n ceisio magu perthynas newydd o ran busnes, diwylliant a gwleidyddiaeth, ac mae disgwyl iddi gynnal trafodaethau ag arweinwyr busnes ynghylch buddsoddiadau posib.

Bydd hi’n annerch 120 o benaethiaid yn Ibec, gan bwysleisio bod “yr Alban ar agor i fasnachu”.

Yr wythnos diwethaf, fe fu arweinwyr gwledydd Prydain yn cyfarfod â Taoiseach Iwerddon, Enda Kenny a nifer o weinidogion Llywodraeth Prydain.

Ymhlith y prif bynciau dan sylw roedd mynediad i’r farchnad sengl.

Mae disgwyl i Nicola Sturgeon gyhoeddi dros yr wythnosau nesaf sut y bydd hi’n ceisio cadw’r Alban o fewn y farchnad sengl, gyda dull tebyg i Norwy ac aelodaeth o’r Gymdeithas Masnach Rydd Ewropeaidd yn opsiynau sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd.

Dywedodd Nicola Sturgeon: “Mae’r cysylltiadau busnes, academaidd, diwylliannol a gwleidyddol rhwng yr Alban ac Iwerddon wedi’u hen sefydlu ac rydyn ni am eu cryfhau nhw ymhellach.

“Mae allforion yr Alban i Iwerddon yn werth £1.125 biliwn ac mae buddsoddiad Gwyddelig i’r Alban yn cefnogi mwy na 6,000 o swyddi ar hyn o bryd.

“Mae’n bwysig cyfleu i’n partneriaid Ewropeaidd, megis Iwerddon, fod yr Alban wedi pleidleisio’n sylweddol dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd a’n bod ni’n gwneud popeth allwn ni i warchod ein perthynas ag Ewrop.

“Rwy am i gwmnïau yn Iwerddon wybod fod yr Alban yn parhau’n agored i fasnachu ac y bydd yn parhau i fod yn lle deniadol i fuddsoddi.

“Byddaf yn gofyn i’r cynrychiolwyr yn Ibec gydweithio â’r Hub a dod i’r Alban i weld beth sydd gennym i’w gynnig.”

Dywedodd fod rhagor o gynlluniau i gydweithio ag Iwerddon ar y gweill wrth i’r trafodaethau yn sgil Brexit barhau.