Alex Salmond (llun: PA)
Mae cyn-brif weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi cyhuddo’r Torïaid o ddangos eu dirmyg tuag at hawliau’r Alban.

Roedd yn ymateb i bryderon gan y cyn-weinidog Torïaidd Oliver Letwin y gallai’r Goruchaf Lys roi “pwerau feto” i lywodraethau’r Alban a Chymru dros Brexit.

Er mwyn osgoi sefyllfa o’r fath, mae ef a Thorïaid blaenllaw eraill yn galw ar i lywodraeth Prydain roi’r gorau i’w hapêl i’r Goruchaf Lys am yr hawl i adael yr Undeb Ewropeaidd heb gymeradwyaeth seneddol.

“Mae Syr Oliver Letwin a’i giwed wedi dangos gwir liwiau’r Torïaid yn eu hagwedd tuag at yr Alban,” meddai Alex Salmond, llefarydd yr SNP ar Ewrop.

“Fe fyddai’n well ganddyn nhw anghofio’u hapêl Brexit na chymryd unrhyw siawns y byddai’r Goruchaf Lys yn sensitif i bryderon Ewropeaidd yr Alban.

“Dylai pob Tori yn yr Alban wingo mewn cywilydd wrth i ddirmyg y Torïaid at hawliau’r Alban fel cenedl gael ei ddinoethi.

“Y drwg i’r Torïaid yn yr Alban yw bod eu cydweithwyr yn San Steffan wedi cael eu dal yn dweud y gwir am eu rhagfarnau gwrth-Albanaidd.”