Jeremy Corbyn (llun: PA)
Mae Jeremy Corbyn wedi beirniadu “gwrth-elitiaeth ffug” Nigel Farage a Donald Trump gan eu disgrifio fel dynion gwyn cyfoethog sy’n barod i ddweud unrhyw beth er mwyn ennill pleidlais.

Mae hefyd yn cyhuddo Theresa May o chwarae ei rhan mewn meithrin rhagfarnau yn erbyn mewnfudwyr.

Gan gyfeirio at y cynnydd mewn troseddau casineb ym Mhrydain ac America ers y bleidlais Brexit ac ethol Trump, rhybuddiodd arweinydd Llafur yn erbyn ildio dim i ragfarnau o’r fath.

‘Dim addewidion ffug’

Yn fforwm polisi cenedlaethol Llafur yn Loughborough heddiw, mynnodd Jeremy Corbyn na fydd Llafur yn gwneud unrhyw “addewidion ffug” i dorri ar fewnfudo.

“Rhaid inni ddewis llwybr gwahanol,” meddai. “Allwn ni byth roi unrhyw le i gasineb.

“Pan ddaeth mewnfudwyr Asiaidd a Charibîaidd i Brydain ganol yr 20fed ganrif, doedd cyflogau ddim yn cael eu torri oherwydd roedd gweithwyr yn cael eu hamddiffyn gan undebau llafur cryf a hawliau cyflogaeth.

“Mae’r Torïaid wedi hau ofnau ac ymraniadau, a hyrwyddo casineb yn ymgyrch y refferendwm, gydag anogaeth Ukip.

“Dyma lywodraeth sy’n cael ei harwain gan Theresa May, a wnaeth, fel ysgrifennydd cartref, awdurdodi faniau’r llywodraeth i deithio’r strydoedd gyda’r negeseuon ‘Ewch adref’.

“Rhaid i Lafur adfer gobaith, a rhoi cyfle i bobl adennill gwir reolaeth.”