Boris Johnson (Llun parth cyhoeddus)
Mae’r ysgrifennydd tramor Boris Johnson yn gwrthod mynd i gyfarfod brys o weinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd yfory i drafod buddugoliaeth Donald Trump.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor fod cyfarfod arferol o’r Cyngor Materion Tramor ddydd Llun ac nad oedden nhw’n gweld yr angen am gyfarfod ychwanegol yfory.

“Mae gweithred o ddemocratiaeth wedi digwydd, mae cyfnod pontio, a byddwn yn edrych ymlaen at weithio gyda gweinyddiaethau’r presennol a’r dyfodol i sicrhau’r canlyniadau gorau i Brydain,” meddai’r llefarydd.

Ar y llaw arall, mae llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, wedi mynegi pryder am fuddugoliaeth Trump.

“Dw i’n meddwl y byddwn ni’n gwastraffu amser am ddwy flynedd tra bydd Mr Trump yn teithio byd nad yw’n gwybod dim amdano,” meddai.

“Rhaid inni ddysgu arlywydd newydd yr Unol Daleithiau beth yw Ewrop a sut mae’n gweithio. Mae’n codi cwestiynau am y gynghrair draws Iwerydd, a chynghrair Nato, felly gallai fod yn bur beryglus.

“O ran ffoaduriaid a phobl eraill nad ydyn nhw’n Americanwyr, mae agwedd Trump yn gwbl wahanol i’r agwedd yn Ewrop.”

Rhybudd

Mae un o weinidogion amlwg llywodraeth Angela Merkel yn yr Almaen hefyd yn rhybuddio bod Prydain yn byw mewn paradwys ffŵl os yw’n disgwyl triniaeth ffafriol gan Donald Trump.

Dywedodd Axel Schafer y rhagolygon o gytundeb masnach buan a ffafriol rhwng Prydain ac America wedi newid yn sgil buddugoliaeth Trump.

“Hyd yn oed cyn ddydd Mawrth, roedd y siawns braidd yn isel, ond bellach nid yw’r gobaith am gytundeb o’r fath yn  ddim byd ond rhith,” meddai.