Yr uchel lys yn Llundain
Mae Gina Miller – yr ymgyrchydd a aeth â’r Llywodraeth i’r llys i fynnu hawl i’r senedd benderfynu ar Brexit – wedi cael ei rhybuddio nad yw’n ddiogel iddi fentro o’i chartref.

Ers ei buddugoliaeth yn yr Uchel Lys yr wythnos ddiwethaf, mae hi a’i theulu wedi derbyn llu o fygythiadau, ac mae’r heddlu’n ei chynghori i osgoi mannau cyhoeddus.

“Ro’n i’n gwybod y byddai pethau’n ddrwg,” meddai. “Ond dim byd fel hyn, mae’n amlwg. Bwlio o’r math gwaethaf yw hyn, a dw i ddim am adael iddyn nhw ennill.

“Nid dyma’r math o gymdeithas sy’n rhaid inni fyw ynddi. Mae hyn wedi profi yn fwy na dim fod yn rhaid imi wneud hyn.”