Donald Trump yn ymgyrchu - pan ddywedodd y gallai wrthod canlyniad yr etholiad (Michael Vadon CCA4.0)
Mae darpar Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi cwyno am y protestiadau yn ei erbyn mewn nifer o ddinasoedd mawr y wlad.

Mae un digwyddiad – yn Portland, Oregon – wedi cael ei alw’n “derfysg” gan yr heddlu lleol ac mae gwrthdystiadau hefyd yn Efrog Newydd, Chicago, Philadelphia a Dallas.

Er ei fod wedi bygwth tynnu pobol i’r strydoedd pe bai’n colli’r etholiad, mae Donald Trump wedi trydar fod y protestiadau’n “annheg iawn”.

Mae’n rhoi’r bai ar “brotestwyr proffesiynol” am y digwyddiadau ac ar y cyfryngau am eu hannog.

‘Cyfarfod cyfeillgar’

Fe ddaw’r protestiadau ar ôl i Donald Trump gael cyfarfod “cyfeillgar” gyda’r Arlywydd presennol, Barack Obama.

Mae hefyd wedi ffonio nifer o arweinwyr byd-eang, gan gynnwys Prif Weinidog Prydain, Theresa May – er ei fod wedi siarad gyda rhai fel Taioseach Iwerddon, Enda Kenny, cyn hynny.

Yn ôl Downing Street, roedd y ddau arweinydd wedi pwysleisio’r “berthynas arbennig” rhwng Prydain a’r Unol Daleithiau.