Trump yr Arlywydd nesa' (Michael Vadon CCA4.0)
Mae Donald Trump wedi addo uno’r Unol Daleithiau a gwasanaethu ei holl ddinasyddion.

Mewn araith i dderbyn arlywyddiaeth y wlad, fe ddywedodd ei fod eisiau atgyfodi’r freuddwyd Americanaidd.

Ond roedd ei bwyslais ar dynnu’r wlad at ei gilydd a rhoi cyfle i bawb, gan gynnwys y rhai “sydd wedi eu hanghofio”.

Fe addawodd ailadeiladu canol dinasoedd a chyflogi miliynau o bobol yn adfer ffyrdd a phontydd ac isadeiledd y wlad.

Newid y neges cyhoeddus

Roedd goslef Donald Trump yn wahanol iawn i’w areithiau yn ystod yr ymgyrch ei hun – wedi addo carcharu ei wrthwynebydd Hillary Cliton, heddiw roedd yn diolch iddi am ei gwasanaeth i’r Unol Daleithiau.

Ond yn benna’ oll, roedd yn addo uno’r Unol Daleithiau a chynnal perthynas dda gyda gweddill y byd.

“Mae gyda ni gynllun economaidd gwych,” meddai. “R’yn ni’n mynd i ddyblu twf ecoomaidd a chael yr ecoomi cryfa’ yn y byd i gyd.

“Byddwn yn cyd-dynnu gyda phob cenedl yn y byd sy’ barod i gyd-dynnu gyda ni.”

Ac, wrth ddiolch i’w weithwyr, fe ddywedodd fod busnes gwleidyddiaeth yn “galed a chas”.

Mwy o rym nag Obama

Fe fydd gan Donald Trump lawer mwy o rym nag oedd gan Barack Obama, gyda chefnogaeth y ddau dy yn y Senedd yn sicrhau y bydd yn gallyu cyflawni llawer o’i addewidion,