Mae Simon Thomas, Aelod y Cabinet Cysgodol dros Ynni, newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi lleisio’i ofid dros benderfyniad Llywodraeth Cymru i gymeradwyo pysgota cregyn bylchog ym Mae Ceredigion.

Mae Mr Thomas, Aelod Cynulliad y Canolbarth a’r Gorllewin wedi barnu Llywodraeth Cymru’n drwm dros y penderfyniad, gan dynnu sylw at ddeiseb â 30,000 o enwau arni a gyflwynwyd y llynedd yn gwrthwynebu’r cam.

“Rwyf wedi cwrdd â threfnwyr y ddeiseb ac wedi ceisio diweddaru fy etholwyr yn barhaus wrth i mi ofyn i Lesley Griffiths, Aelod y Cabinet Cysgodol dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ailystyried safbwynt Llywodraeth Cymru a chefnogi cynaliadwyedd yr amgylchedd morol, sensitif yng Ngheredigion,” meddai Simon Thomas.

“Yn y cyfnod hwn, gwrthododd Lesley Griffiths gwrdd â threfnwyr y ddeiseb wrth i Lywodraeth Llafur Cymru troi cefn ar dros 30,000 o etholwyr gofidus yn ogystal â rhoi dyfodol y bywyd gwyllt, bregus mewn peryg difrifol.

“Hoffwn weld pysgota cregyn bylchog cynaliadwy ym Mae Ceredigion, ond rhaid sicrhau bod y cynefinoedd presennol wedi gwella digon i gefnogi treillio o’r fath. Mae’r penderfyniad hon yn caniatáu treillio pan nad ydym yn deall yn llawn yr effaith ar yr ardaloedd hynny sydd i fod o dan gadwraeth – Mae hyn yn peri gofid dirfawr.”