Mae cyn-ddirprwy brif weinidog Prydain, Michael Heseltine, wedi gwadu lladd ci ei fam.

Mae’r Arglwydd wedi’i feirniadu’n llym ar ôl dweud wrth gylchgrawn crand ei fod wedi tynhau coler ci Alsatian ei fam i’r fath raddau nes i gorff yr anifail fynd yn llipa.

Ond mae Michael Heseltine wedi mynnu fod y ci’n dal yn fyw wedi’r digwyddiad, er ei fod wedi’i ddifa gan y milfeddyg yn ddiweddarach oherwydd ei fod wedi troi arno pan yn blentyn.

“Wnes i ddim tagu’r ci,” meddai Michael Heseltine heddiw, wedi i’r stori yn y cylchgrawn Tatler gael cryn sylw ar deledu ac ar y gwefannau cymdeithasol.

“Maen nhw wedi camddeall,” meddai wedyn.