Andrew RT Davies
Y Ceidwadwyr Cymreig sy’n “cario’r faner” dros y Deyrnas Unedig yng Nghymru, dyna fydd neges yr arweinydd, Andrew RT Davies, heddiw.

Fe fydd y blaid yng Nghymru, gan gynnwys Aelodau Seneddol, yn cyfarfod am y tro cynta’ ers Brexit i drafod lle’r Ceidwadwyr Cymreig yng ngwleidyddiaeth y wlad.

Mae disgwyl i Andrew RT Davies hyrwyddo “gwerth anferth” y Deyrnas Brydeinig yn y cyfarfod preifat yng Nghaerdydd.

Bydd hefyd yn beirniadu perthynas “wenwynig” Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Yn ôl Andrew RT Davies, mae Carwyn Jones yn troi at “fagl genedlaetholgar” Plaid Cymru mewn cyfnodau anodd a bod Leanne Wood wedi methu â mynd i’r afael â methiannau’r Llywodraeth.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig, meddai, wedi “gwneud mwy nag unrhyw blaid arall” i gryfhau’r iaith Gymraeg, gan gyfeirio at sefydlu S4C yn 1982, a Mesur yr Iaith Gymraeg yn 1993 – pan oedd y Torïaid mewn grym yn San Steffan.

Cymro – a Phrydeiniwr – balch

“Fel Ceidwadwyr Cymreig, ni sy’n cario baner yr Undeb yng Nghymru – yr undeb gwleidyddol mwya’ llwyddiannus y mae’r byd erioed wedi’i weld,” mae disgwyl i Andrew RT Davies ddweud.

“Byddwn yn gwneud ein gorau i gadw ein teulu o genhedloedd yn unedig, yn ddiogel ac yn llwyddiannus.”

Yn ei araith, bydd yn gwrthod unrhyw awgrymu bod hyrwyddo Prydeindod yn “lleihau’r balchder a’r ffydd ddiddiwedd mae gennym yng Nghymru.

“Does dim cywilydd yn galw eich hun yn Gymro ac yn Brydeiniwr – i’r gwrthwyneb; mae’n rhywbeth y dylwn anwylo o ystyried plethiad dwfn ein hanes cyfoethog.

“Dyw San Steffan ddim yn rym dieflig y mae Plaid Cymru a’i math am i chi gredu – maen nhw’n weision i bobol Cymru, fel y maen nhw’n weision i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.”

Bydd yn dweud hefyd bod gan y Ceidwadwyr Cymreig, fel “unoliaethwyr balch”, “ddyletswydd” i sefyll yn erbyn “gwendid” Carwyn Jones a Leanne Wood, sy’n “bygwth y Deyrnas Unedig.”