Iain Duncan Smith (Llun y Ganolfan Gyfiawnder Cymdeithasol)
Mae cyn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau’r Ceidwadwyr wedi herio’r Prif Weinidog i ddadwneud toriadau o bron £3.5 biliwn i lwfansau gwaith.

Yn ôl Iain Duncan Smith, fe fydd tua 3 miliwn o bobol yn colli £1,000 y flwyddyn oherwydd y toriadau i’r Credyd Cynhwysol newydd – hynny erbyn i’r credyd gael ei weithredu’n llawn yn 2022.

Mewn adroddiad gan y corff syniadau y mae’n ei gadeirio, fe ddywedodd y cyn aelod cabinet Torïaidd fod lwfansau gwaith y credyd newydd yn ffodd llawer gwell o helpu pobol na thrwy lwfansau treth incwm.

Mae galwad y Ganolfan tros Gyfiawnder Cymdeithasol yn her uniongyrchol i Theresa May ar ôl iddi addo helpu’r rhai sydd “dim brin yn ymdopi” wrth iddi ddod yn Brif Weinidog.

‘Eisiau gwaith’

“Fe fydd pob ceiniog sy’n cael ei buddsoddi yn y Credyd Cynhwysol yn mynd i weithwyr ar gyflogau isel, ond dyw hynny ddim ond yn wir am 25c ym mhon £1 sy’n cael ei fuddsoddi yn lwfansau personol treth incwm,” meddai Iain Duncan Smith.

Roedd y Canghellor ar y pryd, George Osborne wedi torri lefelau’r cerdyd yng nghyllidebau 2015 a 2016 gan arwain at ymddiswyddiad yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, dyfeisiwr y credyd newydd.

“Mae’r rhan fwya’ o bobol ar fudd-daliadau eisiau gwaith,” meddai. “Maen nhw eisiau trefn gyson, cael ymwneud â’r gymuned y tu allan i’r cartref, rhan yn y gymdeisthas a theimlad o bwrpas.”

“Mae gwaith yn rhoi hynny iddyn nhw ac mae’n allweddol ein bod yn gwneud yn siŵr bod pobol yn well eu byd ohewrydd eu bod mewn gwaith.”