Steven Woolfe
Mae’r heddlu yn Ffrainc yn ystyried a fydd unrhyw gyhuddiadau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn erbyn cyn-Aelod  Seneddol Ewropeaidd  UKIP, Steven Woolfe, a’r ASE Mike Hookem yn dilyn ffrwgwd rhwng y ddau yn Strasbwrg yn ddiweddar.

Bu’n rhaid i Steven Woolfe dderbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl y ffrwgwd, wnaeth arwain at ei ymddiswyddiad o UKIP a’i ymgais i fod yn arweinydd y blaid.

Dywedodd llywydd y Senedd Ewropeaidd (SE) Matrin Schulz ei fod wedi cyfeirio’r achos at yr awdurdodau yn Ffrainc yn sgil “difrifoldeb y ffeithiau sydd wedi’u hadrodd a’r goblygiadau troseddol posib”.

Ychwanegodd bod pwyllgor cynghori’r Senedd Ewropeaidd wedi penderfynu bod adroddiadau’r ddau ddyn yn wahanol iawn a bod angen ymchwiliad pellach i’r mater.