Mae adroddiad newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn rhybuddio fod “miliynau o bunnoedd yn y fantol” o ran yr arian bydd Cymru yn ei gael wedi i bwerau trethu gael eu datganoli.

Mae’r adroddiad yn pwysleisio fod angen cynnal trafodaethau manwl gyda’r Trysorlys o ran sut i addasu grant bloc Cymru, gan nodi na fyddai cytuno ar setliad tebyg i’r Alban yn addas i Gymru oherwydd y “gwahaniaethau economaidd.”

Mae’r adroddiad yn nodi: “gan fod poblogaeth Cymru’n tyfu’n gymharol araf, bydd maint y sylfaen drethu gyffredinol yng Nghymru’n tyfu’n arafach nag yn Lloegr, waeth beth fo polisïau Llywodraeth Cymru.

“Gallai methu ag ystyried y gyfradd twf arafach hon olygu y byddai cyllideb Cymru £110 miliwn yn llai ar ôl 10 mlynedd, o’i gymharu â’r arian y byddai’r wlad wedi ei gael drwy’r grant bloc llawn.”

Cynigion

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod sylfaen drethu Cymru yn wahanol i weddill y Deyrnas Unedig am fod nifer o weithwyr ar incwm is.

Yn ôl yr adroddiad: “golyga hyn y gallai ffactorau y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, megis polisi Llywodraeth y DU o gynyddu’r lwfans personol, effeithio’n fawr ar berfformiad cymharol trethi yng Nghymru.”

Am hynny, mae’r adroddiad yn cynnig cyfrifo addasiadau grant bloc ar wahân ar gyfer pob band treth; neu i fynegeio Cymru yn ôl twf trethi mewn rhanbarthau eraill o’r Deyrnas Unedig sy’n ymdebygu at Gymru, megis gogledd Lloegr.

Model yr Alban – ‘ddim yn addas i Gymru’

“Gall addasu grant bloc Cymru ar ôl datganoli trethu ymddangos yn fater technegol, ond mater hynod bwysig yw hwn. Mae cannoedd o filiynau o bunnoedd yn y fantol i gyllideb Cymru,” meddai Ed Poole o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

“Mae’n rhaid ystyried ffactorau megis patrwm twf poblogaeth Cymru, a’i sylfaen drethu gwahanol iawn, er mwyn lliniaru effeithiau negyddol sylweddol ar gyllideb Cymru,” meddai wedyn.

Ychwanegodd David Phillips, Economegydd Ymchwil Uwch yn y Sefydliad Astudiaethau Cyllid: “Er bod y model y cytunwyd arno ar gyfer yr Alban yn bwynt cychwyn defnyddiol wrth drafod sefyllfa Cymru, mae’n rhaid ystyried y gwahaniaethau sylweddol rhwng Cymru a’r Alban wrth benderfynu sut i addasu grant bloc Cymru, ac efallai na fydd model yr Alban yn addas i Gymru.”