Huw Prys Jones yn trafod effaith Brexit ar gynhadledd Plaid Cymru

All neb wadu bod cysgod Brexit yn amlwg yng nghynhadledd Plaid Cymru’r penwythnos yma. Pan oedd Leanne Wood yn awgrymu yn un rhan o’i haraith y gallai Cymru ddod allan o’r argyfwng yn gryfach nag o’r blaen, go brin ei bod hi’n credu hynny ei hun go iawn, heb sôn am argyhoeddi neb arall.

I ddeall cymaint o ergyd oedd Brexit i genedlaetholdeb Cymreig, rhaid mynd yn ôl i hanes cynnar Plaid Cymru ac ymlyniad dwfn arweinwyr cynnar fel Saunders Lewis i’r syniad o undod Ewropeaidd. Mewn blynyddoedd diweddarach, mae gweld y wladwriaeth Brydeinig yn colli sofraniaeth i’r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn destun llawenydd i’r mwyafrif o genedlaetholwyr Cymreig.

Roedd rhai ohonom yn credu yn y syniad o undod Ewropeaidd fel nod ynddo’i hun ac fel rhan annatod o’n hunaniaeth. Roedd eraill yn gweld lleihad yng ngrym y cenedl-wladwriaethau yn gyfle i ranbarthau di-wladwriaeth fel Cymru dyfu a datblygu. A chystal cyfaddef hefyd fod gweld Saeson ffroenuchel a hunan-bwysig yn gwingo a gwaredu o weld gwanhau yn eu sofraniaeth yn hyfrydwch pur.

Goruchafiaeth Seisnig

O safwynt cenedlaetholdeb Cymreig, mae arwyddocâd diwylliannol y bleidlais Brexit lawn mor ddifrifol â’i heffaith tebygol ar economi Cymru.Er mor gymhleth a lluosog oedd rhesymau pobl dros bleidleisio dros adael, does dim gwadu mai cenedlaetholdeb Seisnig-Prydeinig oedd yr un peth oedd yn gyrru’r ymgyrch, ac mai ar hyn hefyd y sylfaenwyd ei phrif apêl.

A’r un peth cyffredin amlwg rhwng bron bawb o hyrwyddwyr Brexit ydi’r ffordd y maen nhw’n arddel rhyw fath o feddylfryd fod y Saeson yn well na phobl eraill. Mae hyn yn amlwg o’u dadleuon parhaus fod ar wledydd eraill fwy o angen masnachu efo nhw nag sydd arnyn nhw angen cytundebau efo gwledydd eraill. Ac mae union yr un math o agweddau o oruchafiaeth i’w gweld ymysg yr agweddau tuag fewnfudwyr, yn enwedig rhai sydd mor haerllug â siarad iaith dramor â’i gilydd. Mae’r agwedd oruchafol hon i’w gweld ar ei gwaethaf wrth gwrs yn y ciaridyms atgas rheini sy’n teimlo bod y bleidlais Brexit yn rhoi rhwydd hyn iddyn nhw ymosod a cham-drin Pwyliaid a phobl eraill o ddwyrain Ewrop.

Waeth inni heb â thwyllo’n hunain nad oedd y bleidlais Brexit yn fuddugoliaeth fawr i’r math yma o genedlaetholdeb Seisnig amrwd. Mae oblygiadau hynny i Loegr yn ddigon drwg; halen ar y briw oedd gweld patrwm pleidleisio Cymru mor debyg. Y caswir ydi ei fod yn arwydd o’r graddau yr ydym wedi cael ein cymhathu.

Mae iddo oblygiadau pellach hefyd i Blaid Cymru yn yr ystyr fod unrhyw ragolygon o annibyniaeth i Gymru ymhellach o’i gafael nag erioed. Hyd yn oed os bydd yr Alban yn torri’n rhydd, mae’n anodd iawn dychmygu’r math o gyfuniad o amgylchiadau y byddai eu hangen cyn y byddai pobl Cymru’n pleidleisio dros dorri oddi wrth Loegr i ymuno efo’r Undeb Ewropeaidd.

Ymateb

Mae’n ymddangos mai un ffordd gan Blaid Cymru o ymateb i’r amgylchiadau newydd anffafriol oedd trwy ganolbwyntio ar faterion sy’n ymwneud â’r haenau o lywodraeth lle mae ganddi fwyaf o bresenoldeb, sef y Cynulliad a chynghorau sir. Roedd yn arwyddocaol mai ar hyn y gwnaeth Leanne Wood ganolbwyntio cryn dipyn o’i haraith. Mae’n ddigon synhwyrol ar un ystyr. Y perygl ydi na fydd y materion hyn yn cael llawer o sylw ym merw’r dadleuon ynghylch Brexit dros y misoedd nesaf ac y bydd llais Plaid Cymru’n cael ei golli yn ei sgil.

Gan dderbyn gwendid ei sefyllfa ar y pwnc, mae safbwynt y Blaid ar Brexit hefyd yn annigonol. I ddechrau, mae canolbwyntio’n gyfan gwbl ar ddadleuon economaidd ac ymgolli mewn gwahaniaethau rhwng ‘Brexit meddal’ a ‘Brexit caled’ yn dilyn yr un math o drywydd ag ymgyrch aflwyddiannus Britain Stronger in Europe a diflasu pobl.

Mae sylw Leanne Wood ei “bod yn derbyn canlyniad y refferendwm” hefyd braidd yn ddiystyr. Wrth gwrs mae pawb yn derbyn y canlyniad yn yr ystyr yn cydnabod ei fod wedi digwydd ac nad oes bwriad i gynnal her gyfreithiol iddo. Ond dydi hynny ddim yn golygu fod disgwyl i’r 48% a bleidleisiodd dros aros i mewn i blygu ar eu gliniau i’n gelynion gwleidyddol. Ac mae gynnon ni hawl hefyd i ddisgwyl rhywfaint o dân ac ysbrydoliaeth ac anogaeth i ddal i gredu gan y bobl a’r pleidiau’r ydan ni wedi eu cefnogi. Er bod annibyniaeth i’r Alban wedi cael ei wrthod o fwy o fwyafrif yn refferendwm yn 2014 doedd Alex Salmond a Nicola Sturgeon ddim yn mynd o gwmpas yn dweud ‘dyna fo, fel’na bydd hi bellach’. A phetai’r refferendwm ar 23 Mehefin wedi mynd fel arall a 52% wedi pleidleisio dros aros i mewn, a ellir dychmygu Nigel Farage a’i giwed yn dweud ‘rydan ni’n derbyn y canlyniad, mi wnawn ni gydweithio rwan i sicrhau llwyddiant o’n haelodaeth o’r Undeb’?

Un o brif wendidau cefnogwyr yr Undeb Ewropeaidd ar ôl y bleidlais oedd y methiant i gyflwyno’r dadleuon moesol a deallusol yn erbyn dilysrwydd y canlyniad. Mae angen meithrin llawer iawn mwy o hyder i wrthsefyll y cyhuddiadau gwirion o fod yn ‘Remoaner’ a’r lol tebyg.  Collwyd llawer o gyfleoedd yn yr wythnosau cynnar yn yr haf i hau mwy o amheuon am y celwyddau a gafodd eu dweud gan arweinwyr Brexit. Ond colli’r dydd neu beidio, siawns mai dyletswydd democrataidd pawb sy’n dal i arddel y freuddwyd Ewropeaidd ydi gwneud pethau mor anodd a thrafferthus i lywodraeth na chafodd ei hethol.

Mae llawer o’r hyn a gafodd ei ddweud gan Leanne Wood a’r cynrychiolwyr eraill yn y gynhadledd yn ddigon goleuedig. Ond mae angen llai o amwysedd a llawer mwy o dân ac angerdd yn wyneb natur y gelyn rydym yn ei erbyn. Mae yna lawer o bobl sy’n ddig iawn ar ôl yr hyn a ddigwyddodd ar 23 Mehefin, ac yn ysu am arweiniad gwleidyddol er mwyn gwneud hynny ag a ellir o ddrwg i’r giwed adweithiol sy’n ein llywodraethu. Yn wyneb methiant truenus Llafur Corbyn, mae hyn yn cynnig cyfle amlwg i Blaid Cymru sefyll yn y bwlch.