Aled G Jôb yn awgrymu trywydd newydd i Blaid Cymru

Roedd canlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd yn yr haf yn ddaeargryn gwleidyddol  na welwyd ei debyg o’r blaen. Er fod union natur strategaeth Llywodraeth Prydain yn dilyn y bleidlais yn parhau’n bur amwys, a’r lleisiau gwrthwynebus yn tyfu’n gynyddol, does fawr o amheuaeth mai gadael yr Undeb fydd ei hanes hi yn y pendraw.

Mae gan y Prif Weinidog, Theresa May waith anodd iawn o’i blaen wrth arwain y broses o adael yr Undeb nid yn unig gan nad oes unrhyw gynsail ar gyfer y ffasiwn broses, ond hefyd gan fod y penderfyniad i adael wedi bod mor agos a hynny’n brawf o’r rhanniadau dwfn a ddaeth i’r wyneb yng Ngwledydd Prydain yn ystod y refferendwm ei hun.

Er gwaetha’r synau herfeiddiol a geir ganddi ar hyn o bryd wrth iddi baratoi i negydu gyda’r Undeb Ewropeaidd, diau y bydd rhaid wrth ryw fath o gyfaddawd er mwyn ceisio cyfannu’r hollt mewnol gartref a sicrhau bod masnachu mor ddilyffethair â phosib yn gallu parhau rhwng Gwledydd Prydain â’r cyfandir.

Problem  ddyrys arall sydd raid i Theresa May ei hwynebu yw sefyllfa’r Alban a’r bygythiad real o ail refferendwm ar annibyniaeth yno pe bai Llywodraeth Prydain yn gadael y farchnad sengl Ewropeaidd.

Er gwaetha’r propaganda du a ledaenir gan y cyfryngau am ddibyniaeth yr Alban ar largesse Lloegr, a’r rhagdybiaethau dall sydd gan lawer o Saeson am y sefyllfa yno, y gwir plaen ydi na all y Wladwriaeth Brydeinig fforddio colli’r Alban. Byddai’r colli hwn yn llawer mwy na cholli talp  o dir helaeth a cholli wyneb yn y byd wrth i’r Albanwyr fynd eu ffordd eu hunain.

Rhaid cofio y defnyddir cyfoeth olew’r Alban fel collateral gan y Wladwriaeth Brydeinig i fenthyca arian ar farchnadoedd arian y byd ac mae diwydiannau llewyrchus eraill yr Alban megis wisgi, bwyd a diod hefyd yn allweddol i gynnal yr hynny o sefydlogrwydd ariannol sydd gan y Wladwriaeth o gofio bod y ddyled genedlaethol bellach yn 1.4 triliwn.

Dydi hi ddim yn ormodiaith i ddweud y byddai hi wirioneddol ar ei thîn yn economaidd pe bai yr Alban yn gadael o gofio am y modd y mae gweithgynhyrchu wedi crebachu bron yn ddim yn Lloegr yn dilyn blynyddoedd lawer o ganolbwyntio ar fuddiannau Dinas Llundain.

Felly, bydd y Prif Weinidog yn siwr o wneud popeth yn ei gallu i gael hyd i gyfaddawd nid yn unig gydag Ewrop ond hefyd gyda’r Alban. Efallai’n wir y bydd rhaid iddi negydu cytundeb sy’n gadael i’r Alban aros yn y farchnad sengl gyda Lloegr a Chymru’n gadael. Ac wrth gwrs byddai diogelu bodolaeth yr Alban yn y farchnad sengl ar garreg y drws yn gallu bod o fantais mawr i’r endid newydd “England and Wales” beth bynnag.

Yr her i Blaid Cymru

Felly, ble mae hynny’n gadael Cymru a Phlaid Cymru yn benodol?

Am flynyddoedd bu’r slogan ‘Cymru Annibynnol yn Ewrop’ yn ysbrydoliaeth i’r mudiad cenedlaethol. Wrth wraidd y slogan hon oedd y syniad y gellid rhywfodd anwybyddu’r brawd mawr drws nesaf a sefydlu cysylltiad uniongyrchol â’r cyfandir a’r gwledydd bychain eraill ar y cyfandir hwnnw.

Arweiniodd hyn at Ewroffilia di-feddwl ac amharodrwydd i wynebu gwir natur yr Undeb Ewropeaidd, ei dogma neo-ryddfrydol di-gyfaddawd a’r bwriad cudd i greu un Wladwriaeth Ewropeaidd ar draul holl wledydd unigol y cyfandir.

Bellach gyda Brexit, mae popeth wedi newid, llwybrau eraill yn bosib a ffyrdd newydd o lywodraethu hefyd yn bosib. Tybed a oes cyfle nawr i Blaid Cymru gyflwyno neges newydd i bobl Cymru yn wyneb y sefyllfa newydd sydd yn ein hwynebu?

Y caswir sy’n rhaid ei gydnabod yw fod y slogan Cymru Annibynnol yn Ewrop yn boblogaidd iawn ymhlith cenedlaetholwyr Cymraeg a’r dosbarth canol hynny yng Nghymru sydd wedi hen arfer mynd am wyliau “diwylliannol” ar y cyfandir. Ond mae’n amheus gen i a yw’r slogan erioed wedi apelio ryw lawer at drwch pobl Cymru

Cysylltiad diwylliannol

Onid y gwir amdani yw fod gan bobl Cymru fwy o gysylltiad diwylliannol a chymdeithasol gyda phobl eraill yr ynysoedd hyn, ie hyd yn oed gyda Lloegr a gyda’r Alban nag sydd ganddynt â phobl ar y cyfandir?

Gellid cysylltu hyn o bosib gydag amharodrwydd cyson pobl Cymru i gofleidio gweledigaeth y Blaid ynghylch annibyniaeth. Dros y blynyddoedd, cafodd annibyniaeth ei weld fel rhywbeth a fyddai’n arwain at Gymru ynysig a mewnblyg a fyddai’n seiliedig ar droi cefn ar weddill pobloedd gwledydd Prydain.

Byddai defnyddio Brexit fel cyfle i alw am Gymru Annibynnol ym Mhrydain yn gwneud llawer i ddifa’r ofnau a’r pryderon hyn sydd wedi llesteirio twf yr achos cenedlaethol cyhyd.Byddai hefyd yn arwydd bod arweinwyr Plaid Cymru yn gallu meddwl y tu hwnt i’r bocs a chydnabod yr hen wireb honno “ Pan fo’r ffeithiau’n newid, dwi hefyd yn newid fy meddwl”.

Byddai cydnabod realiti daearyddol a gwleidyddol tirlun Gwledydd Prydain o’r newydd  hefyd yn fodd inni ail-gysylltu â’n gwreiddiau diwylliannol ein hunain. Wedi’r cwbl, roedd y cwbl o dir Prydain unwaith yn nwylo’r Cymry ac mae ein barddoniaeth ar hyd yr oesau yn gyforiog o gyfeiriadau at hynny. Yn y gerdd “Armes Prydain” yn yr 11ed ganrif, sonir am y Cymry yn ail-feddiannu y cwbl o diroedd Prydain hanesyddol.  Efallai y gellid addasu’r hen broffwydoliaeth hon ar gyfer ein cyfnod ni trwy ddefnyddio’r syniad o Gymru Annibynnol ym Mhrydain er mwyn mynnu y dylid dysgu am y Gymraeg fel rhan o syllabus ysgolion Lloegr er enghraifft.

Ond y ffordd orau i rymuso’r ddadl fyddai son am greu annibyniaeth ar y model Sgandinafaidd.Mae Denmarc, Sweden a Norwy oll yn rhannu’r un tirwedd, ond y tair wlad yn wledydd annibynol yn eu hawl eu hunain sydd â chysylltiadau clos ac sy’n cyd-weithio â’i gilydd. Gallai Plaid Cymru ddadlau dros sefydlu system debyg ar dir Prydain gyda’r Alban, Lloegr a Chymru oll yn wledydd annibynol sydd hefyd yn gallu cyd-weithio gyda’i  gilydd.

Mae’r cysyniad o Annibyniaeth i Gymru wedi codi gormod o fraw ar ormod o bobl am ormod o flynyddoedd.  Pe bai modd cyflwyno’r weledigaeth mewn ffordd sy’n lleddfu ofnau dyfnaf y Cymry, efallai gallai esiampl Sgandinafia roi bywyd newydd i’r hen freuddwyd.