Chris Bryant AS
Roedd Aelod Seneddol y Rhondda yn agos at ddagrau heddiw wrth iddo annog Llywodraeth Prydain i fynd ymhellach â’i chynlluniau i roi pardwn i bobol hoyw a gafwyd yn euog o droseddau rhyw yn y gorffennol.

Yn ei araith, fe fu Chris Bryant AS yn dwyn i gof bobol hoyw a deurywiol a safodd yn erbyn Adolf Hitler, a mynnodd y dylen nhw ac eraill dderbyn “rhywbeth sy’n teimlo fel ymddiheuriad”.

Mae’r Llywodraeth yn San Steffan wedi cyhoeddi y bydd miloedd o ddynion hoyw a deurywiol a gafwyd yn euog o droseddau sydd ddim yn bod mwyach, yn derbyn pardwn ar ôl eu marwolaeth.

Ond mae John Nicolson o’r SNP wedi cyflwyno mesur aelod preifat sy’n mynd hyd yn oed ymhellach. Mae’n cynnig y dylai’r rhai a gosbwyd o dan y cyfreithiau ac sydd dal yn fyw gael maddeuant awtomatig hefyd.

Trechu Hitler

Wrth drafod y mater yn San Steffan, fe gyfeiriodd Chris Bryant yn benodol at yr Aelodau Seneddol, Ronald Cartland, Robert Bernays, Victor Cazalet, Jack Macnamara a Anthony Muirhead, a oedd ymhlith y rhai a ymgyrchodd yn erbyn y Natsïaid.

“Fy nghred gref iawn, iawn i yw, oni bai am y dynion hoyw a deurywiol yna, ni fyddem ni erioed wedi trechu Hitler ac ni fyddem yn mwynhau’r rhyddid sydd gennym ni heddiw,” meddai Chris Bryant.

Ychwanegodd bod y dynion hynny a chymaint o ddynion eraill yn haeddu ymddiheuriad sy’n dweud: “’Mae’n ddrwg gennym ni am fod yn anghywir, roeddech chi’n ddynion dewr. Roedden ni’n anghywir, roeddech chi’n iawn, mae arnom ni ddyled o ddiolchgarwch i chi.”