Theresa May Llun; Hannah McKay/PA Wire
Mae’r Uchel Lys wedi clywed heddiw y byddai unrhyw gytundeb newydd â’r Undeb Ewropeaidd wedi Brexit yn “debygol iawn” o orfod cael sêl bendith y Senedd.

Yn yr Uchel Lys, roedd y cyfreithiwr QC James Eadie yn amddiffyn penderfyniad Prif Weinidog Prydain, Theresa May, i gychwyn Cymal 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd heb awdurdod o flaen llaw gan y Senedd.

Ond, mae ei phenderfyniad wedi’i feirniadu gan grŵp o ymgyrchwyr sydd wedi galw am her gyfreithiol.

‘Atebol i gadarnhad’

Mae’r ymgyrchwyr yn dadlau fod dinasyddion y Deyrnas Unedig yn wynebu cael eu hamddifadu o hawliau statudol os na fydd unrhyw gytundeb yn y dyfodol yn cael ei archwilio gan y Senedd.

Maen nhw’n cyfeirio’n arbennig at Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 sy’n gwneud cyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd yn rhan o gyfreithiau’r Deyrnas Unedig.

Ond, dywedodd y cyfreithiwr y byddai archwilio Seneddol yn digwydd, ac na fyddai cychwyn Cymal 50 yn unig yn newid unrhyw gyfraith gyffredin na hawliau statudol.

“Mae unrhyw newidiadau o’r fath yn fater i drafodaethau’r dyfodol, archwilio’r Senedd a’u cyflwyno gan ddeddfwriaeth,” meddai James Eadie.

“Golwg y Llywodraeth ar hyn o bryd yw y byddai unrhyw gytundeb o’r fath yn atebol i gael cadarnhad,” ychwanegodd.