Nicola Sturgeon
Mae Prif Weinidog yr Alban wedi lambastio’r syniad y gallai Llywodraeth Prydain atal ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.

Yn ôl Nicola Sturgeon, ers y bleidlais Brexit, nid yw’n gweld sut gall Theresa May gyfiawnhau gwrthod rhoi ail gyfle i’r Albanwyr adael y Deyrnas Unedig.

Fe bleidleisiodd Yr Alban o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd – er bod gwledydd Prydain drwyddi draw eisiau Brexit.

Yr wythnos hon yng nghynhadledd yr SNP, fe wnaeth Nicola Sturgeon ddatgelu y bydd yn cyhoeddi mesur drafft yr wythnos nesa’ ar ail refferendwm.

Gan fod Yr Alban wedi pleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd fod gan Senedd Holyrood yr hawl i ddiogelu buddiannau’r Albanwyr wrth i Brydain baratoi i adael.

“Rydym wedi cael ein rhoi yn y sefyllfa hon, yn bennaf gan y Blaid Geidwadol, ac o ganlyniad, os oes ‘na farn yn Senedd yr Alban mai’r ffordd orau o ddiogelu ein buddiannau yw cynnig annibyniaeth eto, mae’r syniad y byddai’r un blaid a wnaeth roi ni yn y sefyllfa honno yn gwrthod y dewis hwnnw i ni yn anhygoel,” meddai Nicola Sturgeon ar raglen Today BBC Radio 4.

Y farchnad sengl

Does dim manylion eto am amseru’r refferendwm honno a dywedodd Nicola Sturgeon ei bod yn dal i ystyried y posibilrwydd o daro bargen a fyddai yn gadael i’r Alban barhau’n aelod o’r farchnad sengl, hyd yn oed os bydd gwledydd eraill Prydain yn gadael.

“Dw i byth ers y refferendwm wedi esgus y byddai’n syml neu heb sialensiau, ac efallai y byddwn ni’n gweld bod dim un o’r ffyrdd hyn yn bosib ac mai annibyniaeth yw’r unig opsiwn,” ychwanegodd.

“Ond byddwn yn trio’n galed iawn i roi opsiynau eraill ar y bwrdd a gobeithio bydd Theresa May yn gwrando arnyn nhw’n ofalus.”

Pris olew

Mae pris olew wedi disgyn tipyn ers refferendwm cyntaf Yr Alban ar annibyniaeth yn 2014 ac fe gydnabyddodd Nicola Sturgeon y byddai hyn yn codi “cwestiynau economaidd anodd” i’r SNP.

Ond dywedodd hefyd fod y Deyrnas Unedig yn wynebu dyfodol economaidd ansicr yn dilyn y bleidlais Brexit.