Gyda Dafydd Wigley a Gwynfor Evans yn San Steffan, 1974
Mae rebel mwya’ Plaid Cymru wedi awgrymu wrth golwg360 y cafodd ei ddiswyddo’n “afresymol” mewn achos disgyblu yn ei erbyn.

Collodd Dafydd Elis-Thomas ei rôl yn llefarydd y blaid ar Drafnidiaeth ar ôl iddo feirniadu sylwadau arweinydd ei blaid, Leanne Wood, am UKIP, yng nghynhadledd wanwyn y blaid, a chollodd hefyd yr enwebiad i fod yn Gadeirydd Pwyllgor Amgylchedd y Cynulliad yn 2014.

Pan gaiff ei holi am ei berthynas â Leanne Wood erbyn hyn, mae’n dweud nad yw byth yn “trafod perthnasau personol rhwng neb yn y Cynulliad hwn”…

“Ein dyletswydd ni i gyd ydy cydweithio o fewn pleidiau ac ar draws pleidiau. Mae cydweithio yn golygu parch ar y ddwy ochr a pheidio diswyddo pobol yn afresymol,” ychwanegodd.

I gael ei ddiswyddo, roedd wedi cyhuddo Leanne Wood o “ymosodiad arwynebol” trwy honni bod UKIP yn mynd yn groes i fuddiannau Cymru.

Mae Dafydd Elis-Thomas, sydd wedi dod dan warchae sawl tro o fewn ei blaid ei hun, ar drothwy ei ben-blwydd yn 70.

Mae modd darllen mwy gan Dafydd Elis-Thomas yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg, ac mae modd gwrando ar ei gyfweliad yn y clip yma: