Yng nghwmni'r Frenhines ar achlysur agor y Cynulliad (Llun: Wikipedia)
Dyw Dafydd Elis-Thomas ddim yn difaru derbyn ei Arglwyddiaeth ac mae e’n ddiolchgar iawn i’r hyn y mae’r teulu brenhinol wedi’i wneud i “gefnogi datganoli”, meddai mewn cyfweliad arbennig yn edrych ymlaen at ei ben-blwydd yn 70 oed ddydd Mawrth nesa’, Hydref 18.

Mae’n dwued “nad oedd dewis” ganddo ar ôl cael ei benodi’n Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn 1993, a chael cynnig i fod yn aelod o’r ail dŷ yn San Steffan.

“Y peth cynta’ wnes i siarad amdano fo oedd Bil yr Iaith Gymraeg,” meddai Arglwydd Nant Conwy wrth golwg360.

“Mae’n bwysig bod Cymru’n cael ei chynrychioli. Gwleidydd cynrychioli ydw i, mi a’ i i rywle i gynrychioli Cymru.”

Mae’n dweud bod e a’i gyd-aelodau o Gymru yn Nhŷ’r Arglwyddi o hyd yn dadlau achos Cymru a’i fod yn parhau i wneud hyn tra bod Mesur Cymru yn trwy’r ail dŷ ar hyn o bryd.

Y Teulu Brenhinol a datganoli

Ychwanegodd ei fod yn “ymwneud” â “phennaeth y wladwriaeth [y Frenhines] oherwydd dyna’r drefn sydd gynnon ni”.

“Dw i’n gwerthfawrogi’n fawr be maen nhw [y teulu brenhinol] wedi’i wneud i gefnogi datganoli, yn enwedig y Tywysog, mae o wedi bod yn gefnogwr gwych i amgylchedd Cymru ac i’r lle hwn [y Cynulliad.”

Mae modd darllen mwy gan Dafydd Elis-Thomas yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg, ac mae modd gwrando ar ei gyfweliad yn y clip yma: